Home > Newyddion > Arddangosfa o  gynlluniau gardd yr orsaf

Yn ddiweddar, cynhaliwd ymgynghoriad yng nghaffi’r Coffee Pot gan Gyfeillion Gorsaf Rheilffordd Llanelli lle gwelwyd  cynlluniau posib ar gyfer gardd yr orsaf. Saif y Coffee Pot yr ochr arall i’r hewl o ddarn o dir wastraff a fydd, os gwireddir gobeithion, yn ardd ger y groesfan reilffordd wrth ochr orllewinol Gorsaf Llanelli.

Yn yr ymgynghoriad, ail-gadarnhaodd  Caroline Streek a Lyn John o Dreftadaeth Cymunedol  Llanelli eu hymroddiad i gynllunio bwrdd hysbysebu yn yr un arddull a welir yn y 14 bwrdd a ddarparwyd gan y grwp treftadol yma ac acw yn Llanelli.

Dywedodd Nia Griffith AS a fu’n weithgar wrth sefydlu Cyfeillion Gorsaf Rheilffordd Llanelli,

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cynorthwyo cyn belled, gan gynnwys   Dan Snaith a’i wirfoddolwyr sydd wedi helpu clirio’r tir, John Prosser a oedd yn allweddol wrth drefnu’r ymgynghoriad, noddwyr sydd wedi cynnig cymorth i’r  prosiect a David Darkin o Benseiri Darkin a wnaeth yr arolwg angenrheidiol a luniodd y cynlluniau drafft ar gyfer yr ardd gan ein hysbrydoli am yr hyn sy’n bosib gyda’r darn hwn o dir. Pan ddaw y gwanwyn, ein gobaith a’n amcan fydd i wireddu ein breuddwydion.”