Yn ôl dadansoddiad Llafur, mae dros mil o swyddogion heddlu Cymru at fin cael eu torri.
Mynnodd y Blaid Lafur bleidlais yr wythnos hon gyda’r bwriad o atal cynlluniau’r Llywodraeth i dorri cyllidebau’r heddlu i fyny at 25% dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Nia Griffith AS, Llefarydd Llafur dros Gymru:
“Yn barod mae gwasanaethau heddlu Cymru wedi wynebu toriadau i fyny at 14%, gan olygu bod 614 yn llai o swyddogion yr heddlu yn gwarchod cymunedau lleol i gymharu â’r sefyllfa yn 2010.
“Gyda chodiad yn nifer y troseddau treisiol yng Nghymru, mae’n anhygoel bod y Tor?aid yn ystyried ar hyn o bryd torri swyddi rheng flaen yr heddlu. Dyna ddarpriaeth bron sy’n cyfateb i holl wasanaeth heddlu Dyfed Powys.
“Dylai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru frwydro dros Gymru wrth ford y Cabinet. Yn lle hynny mae ei Lywodraeth Tor?aid ef yn methu’n ei dyletswydd mwyaf sylfaenol sef diogelu’r cyhoedd.”