Mae Nia Griffith AS ac aelodau Cymdeithas Parc Howard gan gynnwys y Cadeirydd Gareth Morris a’r Ysgrifennydd Jane Rosser wedi mynd â llythyr i Neuadd y Dref Llanelli. At Jonathan Fearn, Pennaeth Eiddo Cyngor Sir Gâr ’roedd y llythyr wedi cyfeirio gyda chopi at Arweinydd y Cyngor y Cyng Emlyn Dole. Yn y llythyr codwyd pryderon am hysbysiad cyfreithlon yn y Western Mail, yn rhoi amlinelliad o’r ffordd bwriedir cael gwared o nifer o asedau, gan gynnwys Parc Howard.
Yn eu llythyr mae’r Gymdeithas yn pwysleisio:
“Nad yw Cymdeithas Parc Howard ddim o blaid gweld y Parc yn cael ei drosglwyddo i eiddo preifat ac yr ydym yn gwrthwynebu cael gwared ohono fel mae’n cael ei ddweud yn yr hysbysiad cyfreithlon a osodwyd yn y Western Mail gan Gyngor Sir Gar.
Aethant ymlaen i ddweud yn y llythyr eglurhaol at y Cyng Emlyn Dole:
“Cafodd aelodau Pwyllgor Cymdeithas Parc Howard eu syfrdanu wrth ddarllen yr hysbysiad cyfreithlon, yn amlinellu y ffordd bwriedir cael gwared o nifer o asedau, gan gynnwys Parc Howard. ’Roedd eich sylwadau diweddaraf yn y cyfryngau lleol yn cadarnhau y byddai Parc Howard yn aros mewn eiddo cyhoeddus.”
Yn ôl Nia Griffith, “Erbyn hyn, mae gennym Gymdeithas gweithgar a phenderfynol iawn sydd am gyd-weithio â phobl Llanelli a’r Cyngor er mwyn diogelu Parc Howard i genedlaethau y dyfodol. Nid yw pobl ddim yn erbyn marchnata sensitif megis caffi yn y parc, ond mae barn y cyhoedd yn glir iawn am ddymuno gweld y parc mewn eiddo cyhoeddus a dylai’r Cyngor Sir barchu’r safbwynt hwnnw.”