Mynegodd trigolion eu pryderon wrth alw Nia Griffith AS i weld Llwyn Bedw fel yr oedd teirw dur, sef bulldozers,yn symud i mewn. Esboniodd yr AS:
“Gofynnodd trigolion Llwyn Bedw i fi ddod a gweld yr hyn oedd yn digwydd tra oedd teirw dur yn symud i mewn i’w stryd er mwyn tynnu’r perthi o’u gwreiddiau, cael gwared â’r cyrbau a thorri’r coed gan ddechrau ar hewl mynediad i ddatblygiad newydd o dai. Mae trigoliioni yn grac iawn bod hwn yn digwydd cyn bod y pwyllgor cynllunio wedi cael cyfle i ystyried y datblygiad.
Mae amser o hyd tan 4ydd Tachwedd i ddweud eich dweud am y datblygiad – gweler y daflen sy’n dod gyda hwn am wybodaeth ar sut i wneud hyn. Gwn fod hwn yn teimlo’n hwyr ond cofiwch yn ogystal â’r pwer i gymeradwyo neu i wrthod y cais cynllunio hwn, fe all y pwyllgor benderfynu gosod amodau penodol ar y datblygwr er mwyn helpu lleihau’r effaith ar drigolion, ac felly heb os nac onibai mae’n werth osod o’u blaenau yn hollol eglur y pryderon penodol.”
“Nid oes gan y datblygiad ganiatâd cynllunio ac er i drigolion h?n ar y strydoedd cyfagos erfyn droeon, nid yw swyddogion cynllunio y Cyngor wedi gweithredu’n orfodol yn erbyn y datblygiad anghyfreithlon. Byddwn o leiaf wedi disgwyl i swyddog gorfodaeth ddod i weld yr hyn sy’n mynd ymlaen. Mae’n hanfodol bwysig erbyn hyn bod y pwyllgor cynllunio yn gwrando ar bryderon y trigolion.”