Home > Newyddion > Lee Waters i fod yn ymgeisydd Llafur Llanelli yn Etholiadau’r Cynulliad

Mae’n bleser gan Blaid Lafur Etholaeth Llanelli gyhoeddi bod Lee Waters wedi cael ei ddewis i frwydro yn enw’r  Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad Mis Mai nesaf, pan fydd  yr AC presennol Keith Davies yn ymddeol. Cafodd Lee ei  eni a’i fagu’n lleol gan fynychu Ysgol Dyffryn Aman. Mae ganddo brofiad helaeth yn y maes gwirfoddol a’r cyfryngau, ac mae’n benderfynol o ddod â chyfleoedd a gwelliannau i fywydau pobl  yma yn etholaeth Llanelli.

Wrth sôn am ddewis Lee, dywedodd Nia Griffith, AS Llanelli,

“ ’Rwyn wrth fy modd bod Lee Waters wedi cael ei ddewis fel ein hymgeisydd Llafur yn etholiadau’r Cynulliad. Mae e’n teimlo’n gryf ac yn ddwfn dros etholaeth Llanelli a’i ddymuniad yw i ddefnyddio ei egni er mwyn codi ystod y swyddi a’r cyfleoedd sydd ar gael yma, gan sicrhau bod Llanelli yn ardal sy’n cartrefi i’n pobl ifainc uchelgeisiol ac nid rhywle i’w dianc oddiwrthi. Yn barod mae e’n wrthi ac wedi denu cefnogaeth cannoedd o bobl yn ei ymgyrch i orfodi   Cyngor Sir Plaid Cymru i roi gorau i’r cynlluniau gwallgo am fwy eto o ddatblygu manwerthu yn Nhostre a fyddai’n cael effaith drychynebus ar ganol tref Llanelli. ’Rwyn edrych ymlaen yn eiddgar i gydweithio â Lee dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau’r gorau posib i bobl ardal Llanelli i gyd.”