Home > Newyddion > Nia yn ymosod ar y Prif Weinidog am iddo dorri addewid ar gredydau treth plant

Yn ei dangosiaid cyntaf ar Gwestiynau Cymreig yn y Senedd ymosododd Nia Griffith AS, a benodwyd yn ddiweddar yn Ysgrifennydd Llafur Cymru, ar y Prif Weinidog am iddo dorri addewid ar gredydau treth plant

Wrth lefaru yn Gwestiynau Cymreig, dywedodd Nia,

“Er gwaethaf addewid y Prif Weinidog cyn yr etholiad i beidio â thorri credydau treth plant, mae ei Lywodraeth Geidwadol erbyn hyn yn symud ymlaen â thoriadau sy’n golygu ar gyfartaledd colled o £1000 y flwyddyn i chwarter miliwn o deuluoedd ar draws Cymru. Ar hyn o bryd mae credydau treth plant yn rhoi rhyw dipyn o gymorth i incwm teuluoedd sy’n cynnwys 60% o blant Cymru a dylwn gofio bod mwyafrif eu rhieni mewn gwaith.

Mae Stephen Crabbe AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn sylweddoli’n iawn bod arbenigwyr annibynnol o’r Sefydliad Astudiathau Cyllid wedi dangos NA fydd  90% o’r toriadau i gredydau treth plant DDIM yn cael ei unioni gan unrhyw godiad yn yr isafswm cyflog,  a thwyll ffug-ddiniwed yw datgan fell arall yn ei atebion seneddol.

Mae’r toriadau hyn i gredydau treth yn lleihau’r cymhelliad i weithio ac yn cael effaith andwyol ar deuluoedd ar draws Cymru, ar gyflogau cymhedrol neu’n llai. Dyma chwalu’r ffug-esgus unwaith ac am byth bod y Ceidwadwyr yn cynrychioli gweithwyr a dangos yr honiad hwnnw fel twyll a rhagrith.

Nid teuluoedd yn unig fydd yn dioddef.  Bydd y toriadau hyn yn sugno dau gan miliwn punt allan o economi Cymru. Dyma arian sy’n cael ei wario gan deuluoedd yn uniongyrchol ar y stryd fawr yn lleolI, a’i wario trwy angen nid trwy ddewis. Felly, bydd y toriadau hyn yn cael effaith tymor hir andwyol ar yr economi lleol gan gynnwys colli swyddi mewn cymunedau ar draws Cymru.”