Wrth sôn am ei ddyrchafiad i Lefarydd Llafur ar Faterion Cymru, dywedodd Nia Griffith AS,
“Anrhydedd yw cael fy mhenodi i fod yn Ysgrifennydd Llafur Cymru, gan adeiladu ar sail gwaith fy rhagflaenydd Owen Smith sydd nawr yn Ysgrifennydd Llafur ar Waith a Phensiynau gan gyd-weithio ag ef a’n cyd AS Llafur Chris Bryant sy’n Arweinydd Llafur y Ty Cyffredin.
“Yn ei fuddugoliaeth ysgubol yn y gystadleuaeth am arweiniad Llafur, mae Jeremy Corbyn wedi cyflawni tu hwnt i bob disgwyl ac nawr mae’n hanfodol ein bod i gyd yn brwydro ag ef am yr hwn a gredwn ynddo – sef mewn cymdeithas tecach a mwy cyfartal. Yng Nghymru mae gan Lywodraeth Lafur Cymru hanes ardderchog am gyflawni addewidion ac edrychaf ymlaen at gyd-weithio’n agos â Jeremy, Carwyn ac holl dîm Llafur Cymru er mwyn sicrhau buddugoliaeth arall i Lafur yng Nghymru ym Mis Mai ac ar ôl hynny.
“’Rwyn ymfalchïo fy mod yn rhan o Gabinet Llafur cryf a fydd yn gweithio’n ddiwyd i ddangos agwedd ddi-deimlad y Torïaid ac i sefyll yn gadarn dros Gymru ac yn erbyn eu cynlluniau i chwalu cefnogaeth i weithwyr, dofi undebau a’i wneud yn anos i gael tegwch yn y gwaith.”