Yn ddiweddar aeth Nia Griffith AS a phreswylwyr y Strade i gyfarfod unwaith eto â chynrychiolwyr Taylor Wimpey i drafod a bwrw goleuni ar faterion a phryderon ynghylch Parc y Strade newydd ar sail yr hen safle enwog sef Stadiwm y Scarletrs.
Dywedodd Nia said, “Mae byw pob dydd, mwy neu lai, ar safle adeiladu yn ddigon anodd gyda’r s?n llwch a ffrwd ddi-ben-draw o lorïau trymion yn taranu heibio, gan beri niwed i balmentydd ac heolydd bach wrth fynd heibio, ond pan bo rhaid dioddef y pethe hyn am ’wn i ddim faint o’r gloch ar fore Dydd Sul, ar ôl wythnos o waith caled gan edrych ymlaen ar dipyn o orffwys . . . wel, nid mater o chwerthin yw hwnna.
Yn gyfan gwbl, bywiog ond adeiladol oedd y cyfarfod, a chafodd sicrwydd oddi wrth penaethiaid Taylor Wimpey ar ystod eang o faterion.
Wrth sôn yn bellach, dywedodd Nia, “Heblaw am fod yn gam neu’n gymwys, mae’n bwysig er lles perthynas iach bod Taylor Wimpey yn gwrando ar breswylwyr hirsefydlog Strade a gweithredu yng ngoleuni eu pryderon.”