Mae Nia Griffith AS yn mynnu cael gwybod gan Weinidogion Llywodraeth y DU pryd cawn weld gostyngiadau sylweddol yn y cost o dollau ar Bontydd Hafren. Bydd y pontydd yn dychwelyd i berchenogaeth gyhoeddus pan fydd y dyledion wedi eu talu, rhywbryd yn 2018 yn ôl y disgwyl. Serch hynny, nid yw Llywodraeth y DU hyd yn hyn wedi cadarnhau yn union pryd ac yn ôl Gweinidogion y Llywodraeth mae dyledion eraill mewn bodolaeth ac mae’r Trysorlys yn disgwyl iddynt hwy gael ei setllo yn gyntaf.
Esboniodd Nia Griffith AS mewn trafodaeth seneddol a gychwynwyd gan Jessica Morden AS dros ddwyrain Casnewydd sef cartref ochr Gymreig yr ail Bont Hafren:
“Mae’n annheg bod cwmniau megis Owens Transport yn Llanelli yn talu’r swm anferthol o £500,000 y flwyddyn yn nhollau Pontydd Hafren pan ydynt mewn cystadleuaeth â chwmniau o Loegr neu o’r Cyfandir. Maent wedi siomi bod y Canghellor wedi cyhoeddi ar yr un llaw gostyngiad ar gyfer cerbydau category 2 (faniau) ond ar y llaw arall heb wneud dim ar gyfer HGVs. Gall cost y tollau benderfynu buddsoddiad yng Nghymru neu rywle arall.
“Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth lunio cynlluniau clir ar gost y tollau yn y dyfodol a phryd cawn ddisgwyl gostyngiad. Gwyddom mai diflannu fydd TAW pan fydd y pontydd yn dychwelyd i berchenogaeth gyhoeddus, ond gwahaniaeth bach fydd hwnnw, ac ni fydd ddim gwahaniaeth i weithredwyr masnachol sy’n ad-ennill TAW ’ta beth. Byddai’n well gennyf weld dim costau o gwbl, ond fel arall, dymunaf sicrwydd oddi wrth y Llywodraeth mai’r cost mwyaf fydd ar gyfer cynnal a chadw yn unig, a fydd, yn ôl y sôn tua £1.50 i £2. Digon drwg yw unrhyw gost o gwbl, gan ystyried nad oes dim system talu-wrth-fynd ar ein ffyrdd, ond byddai’n warthus tu hwnt os gwelir pontydd fel buwch godro i drysorlys y Llywodraeth – gan osod treth annheg ar bobl Cymru ac atal diwydiant rhag sefydlu’r ochr hon i’r pontydd. Yn ychwanegol, mae’n amser i weinidogion y Llywodraeth anghofio’r ffwlbri am arian arall sydd yn “ddyledus” i’r Llywodraeth gan y pontydd – mae gan y trysorlys symiau sylweddol yn barod o’n harian mewn costau TAW.
“Yn y cyfamser dylai’r Llywodraeth mynnu bod gweithredwyr yn buddsoddi mewn gwell ddefnydd o dechnoleg fodern er mwyn gostwng ciwio a thrwy chwilio am opsiynau megis gostyngiadau adegau tawel i gludwyr.”