Ym Mis Gorffennaf daeth disgyblion o Ysgol Tycroes ar ymweliad i’r Senedd. Yn gyntaf aethant i weld T?’r Arglwyddi a lle mae’r Frenhines yn eistedd wrth agor y Senedd yn swyddogol. Dyna pryd mae hi’n cyrraedd yn ei choets tylwydd-tegaidd er mwyn darllen Araith y Frenhines sy’n rhoi manylion am raglen y Llywodraeth ar gyfer y sesiwn nesaf. Yna, ymwelsant â’r Lobi Canolog a Neuadd Sant Steffan ac ymysg yr atgofion mae un am y chandelier sy’n hogian oddi wrth un sgriw ac un arall am yr union fan lle cafodd Y Prif Weinidog, Spencer Percival ei ladd. Wrth gwrs, ’roedd yr ymweliad yn cynnwys y T? Cyffredin lle mae ASau’n deddfu a thrafod pynciau mawrion y dydd.
Ar ôl ymweld â’r adeiladau hanesyddol, bu sesiwn gyda Gwasanaeth Addysg y Senedd, lle cawsant ddysgu am y pleidiau gwleidyddol, ddatblygu polisïau, gynnal etholiadau a ffurfio clymbleidiau, a dyma pryd cafodd Ella ei ethol yn Brif Weinidog.
Mewn cyfarfod â’r grwp ar ddiwedd yr ymweliad, dywedodd Nia Griffith AS, “’Rwyn wrth fy modd bod plant ac athrawon Ysgol Tycroes wedi gwneud y daith hir i ddod a dysgu mwy am y Senedd. Yn amlwg, maent wedi cofio llawer o’r hyn dysgasant, ac ’rwyn gobeithio bydd hyn yr eu hysbrydoli i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn y dyfodol.”