Mae Nia Griffith AS am amddiffyn gwenyn yn y DU ac yn siarad yn gadarn yr erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i godi’r gwaharddiad ar blaladdwyr sy’n niweidio gwenyn.
Gwnaeth yr AS y datganiad hwn tra bod gweinidogion y Llywodraeth yn ystyried ceisiadau i ganiatau plaladdwyr peryglus – gyda’r enw neonicotinoids – nôl i bridd y DU yn yr hydref, er gwaethaf tystiolaeth glir sy’n dangos y niwed a wnaed i’n gwenyn.
Dengys ffigurau diweddar bod gwenyn yn cyfrannu £651 miliwn i economi y DU bob blwyddyn – i fyny 51% ers 2007 Er enghraifft, dibynna tyfiant 85% o gnydau afalau a 45% y cnwd mefus ar wenyn.
Daeth gwaharddiad y llywodraethau Ewropiaidd i rym yn 2013 yn sgil nifer o astudiaethau gwyddonol a ddangosodd fod rhai plaladdwyr yn niweidiol i wenyn yn arbennig. Ers hynny mae’r angen dros waharddiad wedi ennill cefnogaeth mwy o astudiaethau
Dywedodd Nia,
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ysgrifennu ataf am y niwed a wneir gan neonicotinoids i’n gwenyn. Cefnogaf y gwaharddiad traws Ewropiaidd ar ddefnydd neonicotinoid gan ei fod yn ymateb addas i’r dystiolaeth wyddonol ar y niwed a wna i wenyn ac i bryfed peillio eraill ac ‘rwyf wedi digio bod y Llywodraeth Geidwadol wedi cefnogi ymdrechion i’w danseilio. ’Rwyf wedi siarad yn gadarn am hyn yn barod yn y senedd ac er mwyn pwyso o hyd ’rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion y Llywodraeth i ofyn iddynt gadw’r gwaharddiad. Yn ogystal, credaf fod yn rhaid ystyried yr effeithiau tymor hir ar iechyd dynol-ryw.
Yn ôl Dave Timms sy’n ymgyrchu dros wenyn ar ran Cyfeillion y Ddaear: “Mae gwenyn yn hanfodol i’n bwyd a’n ffordd o ffermio. Yn fwy-fwy cawn dystiolaeth wyddonol am yr angen i amddiffyn ein hannwyl wenyn rhag y plaladdwyr peryglus hyn. Mae’n holl-bwysig bod y Llywodraeth yn eu cadw allan o’n meysydd a’n gerddi am byth.”