Home > Newyddion > Mwy o bryderon am wasanaeth hofrennydd yr Heddlu

Gyda chynrychiolwyr etholedig eraill, mynychodd Nia Griffith AS gyfarfod briffio Ddydd Gwener yngl?n â hofrennydd heddlu Dyfed Powys.

Yn sgil y cyfarfod briffio, dywedodd Nia Griffith AS,

“Hoffwn ddiolch i’r Prif Gwnstabl a Chomisiynydd yr Heddlu am drefnu’r cyfarfod yngl?n â’r hofrennydd ond mae’r hyn a glywyd yn peri pryder mawr. Fel treth-dalwyr Dyfed Powys, byddwn ni’n talu  mewn i Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu ond heb hofrennydd Penbre mae’n edrych yn debyg ein bod yn derbyn cam gwael. Gan fod yr ychydig o ganolfannau hofrenyddion sydd ar ôl (lawr o 34 i 22 ac yna i 15) yn agos at ganolfannau mawr â phoblogaeth uchel, yr un nes atom yw Sain Tathan, ac mae’n edrych yn  anochel y bydd amser ymateb o Orllewin Cymru’n fwy. Bydd amser ymateb i’n hardal ni yn 18 munud yn lle 4 munud, ac o Aberdaugleddau yn 32 munud yn lle 12 munud. Bydd yr  amser ar ôl i ganolbwyntio ar y gwaith yn yr un ardal a’r llall  yn cael ei hanneru o ddwy awr  at un awr yn unig.  A beth os bydd galwadau ar yr un pryd ar y hofrenyddion pwy a ?yr pa ymateb a gaem?

’Rydym i fod deall bod defnydd o  awyrennau “fixed wing” yn bosib (awyrennau bychain iawn i chi a fi . . .chi’n disgwyl gweld Amelia Earhart yn neidio allan o un ohonynt) er bod astudiaeth gan NPAS eu hyn wedi dod at y casgliad nad ydynt hanner cystal â hofrenyddion ar dir mynydd neu glogwyni’r arfordir. – pethau o Fyd Natur a welir yn gyson yn Nyfed Powys. Nid yw ddim  hyd yn oed yn glir faint a delir gan Heddlu Dyfed Powys am y gwasanaeth. Os byddwn yn talu mewn i’r ‘Gwasanaeth’ Cenedlaethol hwn (ac nid oes gennym ddim dewis), yna fe ddylwn dderbyn yr un gwasanaeth ac amser ymateb ac ardaloedd eraill yn y DU a byddai canolfan Penbre 24 awr yn ateb y galw. Ni ddylwn dderbyn rhywbeth eilradd, a byddaf yn dal i bwyso ar weinidogion yngl?n â hwn.”