Y sôn yn ddiweddar o weithwyr yn y diwydiant dur yw y posibilrwydd o Lywodraeth y DU fwrw pleidlais yng nghyngor yr UE i’w wneud yn haws hyd yn oed i ddur o Sieina lifo mewn i’r DU oherwydd safiad arferol Llywodraeth y DU yw siarad yn gadarn dros y farchnad rhydd ac i wrthwynebu unrhyw drethi sy’n cefnogi diffyndollaeth (“protectionism”). Heb oedi, felly, fel ysgrifennydd Gr?p Dur Aml-Bleidiol y Senedd cymerais gamau i bwysleisio ar Weinidogion y pwysigrwydd digamsyniad o gyd-weithio â gwledydd eraill yr UE i bleidleisio dros gadw mewn lle’r mesurau sy’n amddiffyn ein diwydiant dur rhag mewn-forion dros ben. Mae adnewyddu’r mesurau hyn a elwir yn drethi gwrth-lluchio yn anochel gan fod mewn-forion o’r tu allan i’r UE wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y ddwy flynedd ddiweddar – gyda mewn-forion atgyfnerthiadau dur carbon ar gyfer concrêt – “cabon rebar” – i fyny dengwaith, ac yn fygythiad sylweddol i ran o’n diwydiant dur. Mae gweithredu’n brydlon wedi arwain at y DU yn pleidleisio dros y mesurau gwrth-lluchio gyda mwyafrif gwledydd yr UE yn pleidleisio o blaid yr amddiffyn.
Yngl?n â’r hyn a elwir yn “wire rod” oedd y bleidlais hon. Yr hyn sydd eu hangen nawr yw bod y Llywodraeth yn gweithredu yn yr un modd pan ddaw mesurau cyffelyb i gael eu hadnewyddau. Fesul un, mae’r diwydiant dur yn y DU yn dibynnu ar bleidlais y gwleidyddion o’r DU gyda mwyafrif gwledydd yr EU.