Cofiwch rhowch glic ar y ddolen ar waelod y tudalen ac arwyddwch y ddeiseb.
Mae Nia Griffith AS wedi collfarnu Ken Rees o UKIP am gynnal trafodaethau cyfrinachol am werthu un o drysorau’r dref, sef Parc Howard. Mewn ymateb i bryderon trigolion, dechreuwyd deiseb i gadw Parc Howard yn eiddo cyhoeddus. Wrth sôn am gyfarfod llawn a gynhaliwyd ar brynhawn Dydd Sadwrn a fynychwyd hefyd gan y cynghorwyr Bill Thomas a Jan Williams ac aelodau Cymdeithas Parc Howard, soniodd Nia am ddicter y trigolion a dywedodd,
“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r trigolion a ddaeth i gyfarfod agored Cymdeithas Parc Howard ar Ddydd Sadwrn ac i ymddiheuro i’r sawl na chafodd cyfle i leisio barn am ddyfodol eu parc. Wrth ail-sefydlu Cymdeithas Parc Howard ychydig o flynyddoedd yn ôl, cefais fy nghymell gan yr angen i gasglu at eu gilydd pobl oedd am gadw a gwella’r parc, ac mae amryw o aelodau’r gymdeithas wedi gweithio’n galed i gynnal digwyddiadau, rannu syniadau am welliannau a chodi pryderon o flaen y Cyngor Sir.
Yn anffodus, ar Ddydd Sadwrn, ’roedd yn rhaid dygymod â’r ffaith, er arswyd i ni, bod Cadeirydd y Gymdeithas, Ken Rees, wedi cynnal trafodaethau cyfrinachol am werthu Parc Howard. Nid oedd ganddo’r hawl i wneud hwnnw, rhywbeth a ddaeth yn olau dydd wrth i Gyngor Tref Llanelli seinio rhybudd a gwrthod gwahoddiad i gyfarfod datblygwr preifat, gan wybod bod y Cyngor Sir, os am ddefnyddio cwmniau preifat gyda marchnata neu waith adnewyddu, tan amod i lynu at weithdrefnau dilys.
Felly, beth nesaf? Gwerthfawrogaf bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gorfodi toriadau enbyd ar y Cyngor Sir, ond ychydig amser yn ôl, cawsom sicrwydd gan Ian Jones, Pennaeth Hamdden y Cyngor Sir bod Parc Howard yn drysor heb-ei-ail ac nid yn ased byddent yn ystyried trosglwyddo i Gyngor Tref Llanelli, heb sôn am ei werthu. Er gwaetha’r ffaith ein bod yn gwybod erbyn hyn bod y posibilrwydd o drosglwyddo wedi cael ei wyntyllu, sarhad i drigolion Llanelli yw bod Ken Rees wedi cymryd arno drafod manylion gwerthu gydag un prynwr posib. Dyma anwybyddu pob rheol. Dyma derfyn, mae’n rhaid, ar y trafodaethau.
Mae’n rhaid i’r Cyng Meryl Gravell, Aelod y Bwrdd y Gyngor Sir â Chyfrifoldeg am Adfywio ddod i Llanelli a gwrando ar y trigolion – fel cawn ddweud wrthi bod Parc Howard yn achos arbennig a’n dymuniad yw cadw Parc Howard yn eiddo cyhoeddus er lles a mwynhâd pobl Llanelli.”