Hoffwn dalu teyrneg i’r ysbryd cymdogol heb-ei-ail a ddaeth i’r amlwg yn un o’n ardaloedd lleol wrth iddynt ymateb yn gyflym ac yn effeithiol pan ddigwyddodd achosion sydyn o ladrata. Digwyddodd mewn ardal ag ychydig o drosedd fel arfer, ond pan ddaw achosion o’r fath, mae’n peri pryder i bobl. Eich gofal ar unwaith yw am eich hunan ac am eich teulu.
Defnyddiodd trigolion grwp caeëdig ar Facebook i gadw mewn cysylltiad a rhoddodd y canlyniadau i’r heddlu. Ymhen ychydig o ddyddiau daliodd yr heddlu y rhai a ddrwgdybir gan, ar yr un pryd, adennill yr eiddo a gipiwyd. Yn barod mae unigolyn mewn cell ac mae’r lleill tan amodau mechnïaeth sy’n eu gwahardd rhag dod i’r ardal.
Er mwyn rhoi cyfle i bawb i ddod at ei gilydd a derbyn y newyddion diweddaraf oddi wrth yr heddlu, cynheliais gyfarfod cyn diwedd yr wythnos. Gwahoddwn hefyd gynrychiolwyr o Gynllunniau Gwarchod Cymdogaeth eraill i esbonio sut maent hwythau’n gweithredu. Oherwydd hynny, penderfynodd y trigolion sefydlu Cynllun Gwarchod Cymdogaeth lleol, gan gydweithio mewn partneriaeth â’r heddlu trwy gadwyn o gyd-drefnwyr a fydd yn rhoi sylw at unrhyw weithred amheus yn yr ardal gan godi llen yn agored, chwedl un llais. Nid yw hwn yn cymryd lle heddwas neu Swyddog Rhawd Gymunedol a mesurau tebyg eraill i atal troseddu fel cadw golau stryd ymlaen yn yr ardaloedd mwyaf bregus ond mae mwy nag un llygad sy’n gwylio yn atal o bosib drwgweithredwyr rhag troseddu. Yn ogystal mae rhai cwmniau yswiriant yn cynnig termau well i gartrefi sy’n rhan o Gynllun Gwarchod Cymdogaeth. Diolch i’r rhai sydd wedi penderfynnu gweithredu ac erbyn hyn ein nod yw cael mwy o drigolion i fod yn rhan o’r Cynllun.