Home > Newyddion > Baner wedi ei llunio gan Ysgol Gymraeg Ffwrnes yn Chwifio yn Scwâr y Senedd

Llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Ffwrnes. Eu baner hwy, yn cynrychioli Sir Gâr, yw un o 80 yn chwifio yn Scwâr y Senedd yn wythnos agoriadol y Senedd newydd. Daeth 500 cynnig o 20,000 disgybl o dros 450 ysgol fel rhan  o Brosiect Baner 2015. Blwyddyn bwysig yw 2015 yn hanes y Senedd wrth inni ddathlu pen blwydd 800 Magna Carta a phen blwydd 750 senedd Montfort yn 1265.

Cynnig Hannah a Livvy enillodd dros Ysgol Gymraeg Ffwrnes, ac ’rwyn siwr bydd pawb yn Llanelli yn deall arwyddocâd y sospan ar y faner. Wrth esbonio eu baner, dywedodd disgyblion  Ysgol Gymraeg Ffwrnes:

“Wrth lunio’r faner cawsom ein hysbrydoli gan y nodweddion hanesyddol, diwydiannol ac o fyd chwaraeon a wnaeth  Llanelli yn ardal sydd mor adnabyddus ac mor annwyl i ni heddiw. Un adeg ’roedd Llanelli yn fyd enwog  am ei diwydiant ffyniannus, yn enwedig y gwaith tun ac yn ei dro sospannau, gan ennill y llysenw TINOPOLIS. Heddiw cewch weld sospannau ar byst rygbi y SCARLETS.  O gwmpas y dref cewch borfeydd gwelltog a llethrau’r bryniau’n rhedeg tuag at Lwybr Arfordir Cymru lle cewch filltiroedd o dywod euraidd gyda golygfeydd syfrdanol at Benrhyn G?yr a bellach draw. Yn gweithio mewn grwpiau o 3 – 5 disgybl o flynyddoedd 3 – 6 ’roedd tua chant o blant.  O’r diwedd, penderfynwyd canolbwyntio ar y cynllun hwn sy’n cynnwys hanes ac harddwch y rhan arbennig hon o Dde Cymru. Yn y faner cewch . . . pyst rygbi, sospan, coch i ddangos lliwiau’r Scarlets a Chymru, gwyrdd am y bryniau a’r  meysydd, glas am y môr a melyn am yr arfordir euraidd.”