Home > Newyddion > Siom Llanelli yn y Gyllideb

Wrth sôn am y gyllideb ddiweddar, dywedodd Nia Griffith AS,

“Nid yw’r Gyllideb hon yn cynnig dim cysur i deuluoedd a busnesau yn Llanelli sydd wedi profi cwymp sylweddol yn eu hincwm gwario gan fod pedair allan o’r pum mlynedd diwethaf wedi gweld prisiau yn codi’n uwch nag incwm, heb sôn am y TAW ychwanegol a dalwyd ers 2010. Nid oes rhyfedd eu bod yn meddwl bod y Canghellor ar blaned arall wrth sôn am adfywiad economig: nid yw’n cael ei rhannu gan drigolion Llanelli sy’n gweld cyflogau isel, safonnau byw yn disgyn, a thrwy’r amser mae’r Canghellor yn torri trethi ei ffrindiau yn y Ddinas ariannol.

Ar ben hynny, g?yr trigolion Llanelli bod gan y Canghellor gynlluniau am doriadau yn y cyfnod seneddol nesaf a fydd yn fwy nag unrhywbeth a welsom hyd at hyn –  a dyna wybodaeth o’r  Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.  Mae ei fethiant llwyr  i leihau’r dyled sydd erbyn hyn wedi cyrraedd y swm aruthrol o £90bn a hwn gyda’i benderfyniad  ystyfnig i fwrw ymlaen â thoriadau enfawr a fydd yn y pendraw yn cyrraedd Llywodraeth Cymru a’n cynghorau lleol ac felly yn cael effaith andwyol ar wasanaethau rheng-flaen ar raddfa y tu hwnt i ddychymyg ac oherwydd at golli swyddi. Bydd hwn ar ben y ffaith bod Cymru yn  barod yn £1.5bn yn dlotach na fyddai tan Lafur. Y gwir plaen yw ni all Llanelli ddim fforddio pum mlynedd arall o Lywodraeth y Toriaid.”