Dydd Sadwrn welodd Nia Griffith AS yn gwisgo welis gwyrdd a rhaw yn ei llaw, yn mynd i safle ger Ffos Las i ymuno â gwirfoddolwyr eraill , tan gyfarwyddyd Coed Cadw. Erbyn hyn, eiddo Coed Cadw yw’r safle, er mwyn plannu maes coffa i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae cynlluniau am 90,000 o goed cynhenid a glaswelltir blodeuog a lliwgar gan gynnwys pabi enwog Fflandrys. Darperir maes coffa parhaol, mewn cyrraedd y cyhoedd, am feddwl a myfyrdod tawel.
Wrth sôn am ei bore yn yr awyr agored, dywedodd Nia Griffith,
“Pleser i fi oedd gallu cyfrannu’n ymarferol i blannu’r coetir coffa hwn. Ers y llynedd bydd llawer ohonoch wedi mynychu neu wedi gwylio ar y teledu’r digwyddiadau amrywiol a gynhaliwyd i goffau dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid yw’n bosib i gael eich taro gan faint aruthrol y colled ym mhob tref a phentref ar draws y Sir. Yn fwy nag yn yr un rhyfel blaenorol, cafodd pob cymuned yn y wlad ei effeithio. Yn lleol, ’roedd dynion a merched yn gweithio ym mudreddi peryglus y ffatri arfau ym Mhenbre. Eto i gyd, mae’r cof yn pylu a dyna paham ’roeddwn yn falch glywed bod Coed Cadw yn bwriadu plannu cofeb parhaol i’r Rhyfel Byd Cyntaf – pedair ardal o goedwigoedd coffa, un ym mhob cenedl yn y Deyrnas Unedig, ac ’roeddwn wrth fy modd bod un Cymru ar ein stepen drws ni, rhwng Ffos Las a Charway. Mae’r cynllun yn atyniadol a chefais y fraint o weld y cynlluniau am gerflun coffa – ceffyl sy’n ein hatgoffa o ran ceffylau rhyfel a cheffylau’r pyllau glo. Edrychaf ymlaen at weld y coed yn tyfu.”