Home > Newyddion > Dadorchuddio Bwrdd Gwybodaeth Heol Gelli

Ar Ddydd Gwener, pleser Nia Griffith AS oedd dadorchuddio bwrdd gwybodaeth oedd yn olrhain hanes ardal Heol Gelli, a’i phrif nodweddion a’i phobl.  Ymchwiliwyd a chomisiynwyd y bwrdd gwybodaeth gan Etifeddiaeth Cymunedol Llanelli, fel un o gyfres o fyrddau ar draws ardal Llanelli. Darperir deunydd hanesyddol am yr ardal, gan gynnwys llun o Gladys Aylward ar ymweliad i’r ardal, gan drigolion lleol a fynychodd yr agoriad yn ogystal â phrifathrawon y gorffennol a’r presennol Ysgol Sant Michael. Yn bresennol hefyd oedd aelodau o deulu Rees, cyn –berchnogion T? Gelli, sydd erbyn hyn wedi troi i fod  yn Glwb Cymdeithasol Trallwm a’r Bryn. Y Cyng Sharen Davies, Cynghorydd Sir yr ardal gafodd rhan sylweddol mewn gwireddu’r brosiect a’r Cyng Tegwen Devichand, aelod Bwrdd Gweithredol y Cyngor gyda chyfrifoldeb am dai, drefnodd bod y safle ar eiddo sy’n cael ei rheoli gan adran tai y Cyngor, wrth fynediad Bryn Amanwy.

Cyflwynwyd y digwyddiad gan Lyn John, Is-Gadeirydd Etifeddiaeth Cymunedol Llanelli. Cyn dadorchuddio’r plac, dywedodd Nia Griffith AS:

“Hoffwn ddiolch i Etifeddiaeth Cymunedol Llanelli, y Cyng Sharen Davies, y Cyng Tegwen Devichand a phawb a fu’n wrthi’n creu a chodi’r Bwrdd Gwybodaeth rhagorol hwn. Mae’n hanfodol ein bod yn cofio ein hanes.  Cyfareddol oedd astudio’r Bwrdd, a gweld sut oedd y dirwedd wedi newid o amaethyddiaeth i byllau glo hyd at estadau tai heddiw, a gweld sut oedd digwyddiadau lleol yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol y pryd. Dysgwn am gapeli ac hanes Ysgol y Bryn – y cyfeiriad cyntaf ati oedd fel Ysgol Sul yn 1842 cyn dod yn ysgol leol. Adlewyrchiad oedd o’r pryder am les plant ag ysgogodd Adroddiad Comisiwn Cyflogu Plant a sbardunodd Ddeddf Mwynfeydd a Phyllau Glo 1842, a waharddodd blant rhag cael eu defnyddio tan ddaear o dan deg blwydd oed. Mae digonedd i’w ddarllen ac i’w ddysgu ar y bwrdd hwn, a gan ei fod yn ymyl y safle bws bydd aros am y bws bellach cymaint mwy diddorol.”