Home > Newyddion > Eich Tîm Llafur ar gyfer Hengoed

Penny Edwards

Eich ymgeisydd ar gyfer y Cyngor Sir

Penny Edwards 01554 780 163 pennyedwards137@gmail.com

Fe ddes i’r ardal hon yn 1967 pan briodais â George Edwards. Cafodd George y fraint o wasanaethu fel cynrychiolydd Hengoed ers ei ethol i’r Cyngor Sir yn 2012. ’Rwyf am wneud yn siwr bod cymuned Hengoed yn dal i gael ei chynrychioli’n gref ac yn weithgar yn y Sir. Credaf yn gryf fod trigolion Hengoed yn haeddu cynrychiolydd sy’n gwrando ar, ac yn deall eu pryderon a fydd yn gwneud yn siwr bod penderfyniadau’n cael eu gwneud sydd o fudd i’n cymuned. Byddai’n fraint gael fy ethol fel eich cynrychiolydd.

Tonia Antoniazzi

Eich ymgeisydd ar gyfer Cyngor Gwledig Llanelli

Tonia Antoniazzi 07565 961 464 toniaantoniazzi@gmail.com

Cefais fy magu yn ardal Hengoed, Llanelli. Cafodd fy ngyrfa ei ddylanwadu wrth i mi weithio gyda phobl yn ei harddegau yn y Clwb Gateway. Rwyf wedi elwa o raglen y Prince’s Trust ac hefyd gan gefnogaeth y Cyngor Gwledig Llanelli ar ddau fôr-deithiau Llongau Tal. Cefais fy addysg yn Ysgol St John Lloyd, Coleg Gorseinon, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Caerdydd. Yr wyf yn cyn-chwaraewr Rygbi Merched Cymru. Rwyf wedi gweithio ym myd addysg ers 1996 – mewn ysgolion uwchradd yng Ngogledd Gorllewin Lloegr cyn dychwelyd i Lanelli yn 2005 i ymgymryd â swydd mewn Ysgol Llanelli fel Pennaeth Ieithoedd. Rwyf wedi bod yn Llywodraethwr Athrawon

ymroddedig gyda dros 5 mlynedd o brofiad.

Fel eich ymgeiswyr Llafur mae gennym setiau sgiliau cyflenwol a fydd yn rhoi llais cryf i Hengoed. Rydym yn addo:

* i gynrychioli pobl Hengoed a thrafod eu pryderon

* i sicrhau bod y Cynhgorau Sir a Gwledig yn rhoi

gwerth am arian

* i wrando ac ymateb i drigolion ardal Hengoed

* i sicrhau safonau uchel o wasanaeth