Mynegodd Nia Griffith AS ei phryderon am y Partneriaeth Masnach Drawsatlantig a Buddsoddi) TTIP), cytundeb masnach rydd a drafodir ar hyn o bryd rhwng yr UDA a’r UE.
Siaradodd yr AS mewn dadl seneddol o blaid cynnig Geraint Davies, aelod Llafur Gorllewin Abertawe yn galw am fwy o lawer o graffu ar TTIP yn seneddau y DU a’r Undeb Ewropïaidd. Esboniodd Nia, “Nid wyf yn erbyn cytundebau masnach, ond mae cynnwys mecanwaith ISDS (Setliad Anghydfod rhwng Gwladwriaeth a Buddsoddwr) yn achosi pryder mawr. Mae hwn yn sylfaenol i gydbwysedd grym rhwng democratiaeth a’r cewri rhyngwladol sydd am osod eu buddiannnau hwy uwchben ein hawliau democrataidd. Nid ydym yn dymuno gweld yn y pen draw sefyllfa lle gall cwmnïau rhyngwladol ddefnyddio’r gyfraith yn erbyn deddfau a luniwyd gan Llywodaethau etholedig er mwyn amddiffyn eu dinasyddion – megis deddfau safonau bwyd neu deddfau amgylcheddol. Ar ben hynny, byddai anghydfodau’n cael eu datrys y tu ôl i ddrysau caeëdig, heb weithdrefn apelio, ac felly yn osgio’r opsiynau cyfreithlon arferol. Mae enghreifftiau brawychus yn barod o’r anghydfodau buddsoddwr-gwladwriaeth hyn. Yn 2012 enillodd y cwmni yswiriant o’r Isel Diroedd Achmea £22 miliwn mewn iawndal o Slovakia oherwydd bod y Llywodraeth Slovak wedi gwrthdroi polisïau preifateiddio iechyd y weinyddiaeth flaenorol, ac wedi mynnu bod y cwmniau yswiriant iechyd yn gweithredu ar sail ddielw. Gallwch weld y bygythiad i’n gwasanaeth iechyd, a’r ffordd y gall cwmnïau mawrion bwgwth llywodraethau i ostwng deddfwriaeth sydd, er enghraifft, yn amddiffyn y defnyddwyr neu’r amgylchedd. |
|
Os oes cytundeb masnach yn cynnwys mecanwaith ISDS (Setliad Anghydfod rhwng Gwladwriaeth a Buddsoddwr) yna bydd yn rhaid i ni sicrhau heb amheuaeth fod y gwasanaeth iechyd ac holl wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys y rhai byddwn efallai am wladori neu ail-wladori yn y dyfodol) yn rhydd o hyn. .
Cewch ddolen gyswllt islaw i’m araith – ’Roedd gennyf llawer mwy i ddweud, ond ’roedd llawer ohonom am gyfrannu ac felly dim ond pum munud oedd gennym yr un ac felly nid oeddwn am ail-adrodd yr un enghreifftiau. “