Home > Newyddion > Yn Galw am Weithredu i Ostwng Ciwiau Ambiwlans

Blaenoriaeth a ddymunwn pob un ohonom o’n gwasanaeth iechyd yw’r sicrwydd bod ambiwlans yn cyrraedd yn gyflym mewn argyfwng a’n cludo i ysbyty ar unwaith. Felly yr wythnos ddiwethaf cawsom ein syfrdanu a’n tristáu gan farwolaeth menyw o Gastell Nedd mewn ambiwlans mewn llinell aros y tu faes i Ysbyty Treforus.   Digwyddodd hyn yn sgil marwolaeth drychinebus preswylydd Dafen Mr Trevor Bryer ag arhosodd mewn ambiwlans  am ddwy awr ar ôl dioddef strôc. Nid yw’r ddau achos yn ddi-gyswllt. Gwyddom fod oedi yn digwydd yn aml oherwydd bod yr ambiwlans mewn llinell y tu faes i ysbytai lle mae angen i weithwyr parafeddygol ofalu am eu cleifion tan bydd staff ysbyty ar gael i’w trin. Wrth gwrs os ydyw staff tan gyfarwyddyd i gludo cleifion i ysbytai bellach i ffwrdd yna mae hwn yn gosod mwy o bwysau ar y gwasanaeth

Yr wyf yn barod wedi trafod â’r gwasanaeth ambiwlans sut i gyflymu’r amser cyn bod yr ambiwlans yn cyrraedd, ond hanfod unrhyw welliant yw cwtogi’r amser aros y tu faes i A&E.

Felly, yr wyf am sicrwydd pendant o Fwrdd Iechyd Hywel Dda y bydd gan Ysbyty’r Tywysog Philip ddigon o staff gan gynnwys meddygon a nyrsus i ddelio â derbyniadau brys.  Os dymuniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw i gleifion ag afiechydon arbennig gael eu cludo i Ysbyty Glangwili neu Dreforys yna bydd arnom angen sicrwydd bod gan yr hysbytai hynny ddigonedd o staff dilys ar gael. Dyma’r hyn fyddaf yn mynnu clywed pan fyddaf yn cyfarfod â chadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda Bernadine Rees ar Ddydd Llun.