Home > Newyddion > Cefnogi Bad Achub Casllwchwr

Gyda’r Dyn Wrth y Llyw Colin Davies a’i or-nith Chloe ar Fad Achub Casllwchwr

Mewn gwyl ddiweddar yn Llwynhendy, gwelodd Nia Griffith AS bad achub Casllwchwr a chwrddodd ag aelodau’r cryw.

Esboniodd Colin Davies, sydd wedi cymryd drosodd y llyw oddi wrth ei dad a sefydlodd bad achub Casllwchwr:  :

“Un o ryw 50 bad achub annibynnol yn y DU yw bad achub Casllwchwr. Nid ydym yn ran o’r RNLI, ac felly ’rydym ar ben ein hunain wrth godi’r cyllid angenrheidiol i gadw a chynnal ein gwasanaeth ac hyfforddi cryw newydd. Wedi ei sefydlu ger Pontllwchwr, ’rydym yn gyfrifol am yr ardal o’r Hendy ac arfordiroedd Llanelli. Y badau achub nesaf sydd ym Mhorth Tywyn a’r Mwmbwls”

Sylwodd Nia Griffith,

“Mae’r gymuned gyfan yn ddiolchgar iawn i gryw Bad Achub Casllwchwr a’i gefnogwyr  am bopeth maent yn gwneud i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr tu hwnt, gyda’r cryw yn wynebu tywydd garw er mwyn achub pobl mewn anhawsterau dybryd. ’Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mai mudiad annibynnol oeddent, ac felly yn dibynnu ar bobl fel ninnau i gyfrannu at y cyllid. Dywedsant wrthyf am  achub yn ddiweddar un pysgotwr lleol profiadol a oedd yn suddo’n raddol hyd at ei frest yn y traeth byw (quicksands): dim ond mewn amser ’roeddent wedi ei achub. Mae hyn yn rhybudd i bawb o ba mor beryglus all ein harfordiroedd fod, gyda thywod yn symud trwy’r amser. A wnewch cystal â rhybuddio pawb ’rydych yn adnabod i fod  yn wyliadwrus dros ben mewn unrhyw man ger y llu neu ar ddwr agored yn unrhyw man?”

http://www.loughorlifeboat.org.uk/