Home > Uncategorized > Adroddiad brawychus ar argyfwng costau byw

Mae’r cynnydd mewn costau byw yn gadael miloedd o deuluoedd yng Nghymru mewn caledi ariannol difrifol. Torri nôl ar fwyd a gwres er mwyn cael deupen llinyn ynghyd yw  ymateb llawer.

Cyhoeddodd AS Llanelli Nia Griffith ffigurau syfrdanol o adroddiad ar y cyd gan Citizens Advice Cymru (sef Cyngor ar Bopeth Cymru) a Shelter Cymru mewn lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.

Dengys yr ymchwil bod saith deg y cant o oedolion Cymru yn pryderu am y cynnydd mewn costau byw ac mae mwy na hanner yn ei ffeindio’n fwy-fwy caled i dalu dyledion a biliau byw. O bryder arbennig mae pris bwyd, petrol ac ynni; ’roedd gan bron hanner y rhai a holwyd (48%) yn adrodd eu bod yn torri nôl ar ddefnydd nwy a thrydan ac mae 37% yn gwario llai ar fwyd.

Yn y cyfamser mae mwy na hanner yn wynebu anhawsterau gyda thaliadau rhent neu fortgais gyda 18% mewn anhawster cyson. Gwelir codiad sydyn yn y ffigur hwn yn ystod y flwyddyn a aeth heibio  – mewn adolygiad tebyg ym Mis Gorffennaf 2013 gwelwyd 12% mewn anhawsterau cyson â thaliadau rhent neu fortgais.

Wrth lansio’r adolygiad dywedodd Nia Griffith AS

“Brawychus yw’r adroddiad hwn. Mae’n dangos yn glir bod byw mewn tlodi yn bryder i filoedd o bobl ar draws Cymru. Mae argyfwng costau byw yn golygu bod pobl yn torri nôl ar hanfodion fel gwres a bwyd. Mae Citizens Advice a Shelter Cymru ar flaen y gâd ac maent yn gweld yr ofn a’r pryder ar wynebau pobl bob dydd yr wythnos. Hoffwn ddiolch iddynt am gyhoeddi’r adroddiad hwn a ddylai dihuno’r Llywodraeth  – dyma dystiolaeth glir  bod angen arnom newidiadau pell-gyrhaeddol i fynd i’r afael â phethau fel y mae. Mae’n rhaid rhewi prisiau ynni, dileu treth anymarferol yr ystafell wely ac ymroi i isafswm cyflog i fyny at 60%  incwm cyfartaledd canolrifol – fel yw nod Llafur, yn ogystal â diwigiad synhwyrol mewn budd-daliadau, nid y draed moch a welir  gyda’r newidiadau presennol.”