Home > Newyddion > Nia’n siarad yn glir am Ddeddfwriaeth i Cymru

Wrth siarad am Ddeddfwriath Cymru ar Sioe Gwleidyddiaeth Dydd Sul ar y teledu, dywedodd Nia Griffith AS,

“’Rwyn croesawu’n fawr y pwerau mae’r  Ddeddfwriaeth hon yn rhoi i Lywodraeth Cymru i  benthyca arian ar gyfer prosiectau seilwaith.  ’Doedd dim synnwyr eu bod yn methu benthyg a nawr byddant yn medru buddsoddi mewn, er enghraifft, gwella ffyrdd a fydd  yn ei dro yn help ddatblygu economi Cymru.

Yn achos datganoli trêth incwm, cyn symud at refferendwm mae’n anfffodol pwysig ein bod yn datrys mater ariannu Cymru’n deg. Mae Ed Miliband wedi addo y byddai Llywodraeth Lafur y dyfodol yn ystyried yn ddwys problem ariannu Cymru. Yna, byddai’n rhaid asessu’n go iawn effeithiau datganoli trêth incwm cyn symud ymlaen â refferendwm.

Credaf mai cyfle coll oedd bod y ddeddfwriaeth heb gynnwys a chyflwyno’r model cadw pwerau sy’n golygu eich bod yn diffinio’n glir pa bwerau a fyddai’n aros yn San Steffan ac yna fe allai Cynulliad Cymru ddeddfwriaethu ar yr holl bethau eraill.   Byddai’r model hwn yn gliriach a byddai’n arbed miloedd o bunnoedd  o arian cyhoeddus sydd ar hyn o bryd yn cael ei wastraffu gan Lywodraeth Torïaid y DU wrth herio pwerau Lywodraeth Cymru yn y Goruchaf  Lys.”

Cliciwch ar y ddolen gyswllt:

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b046v3zj/sunday-politics-wales-29062014