Cynhaliwyd cyfarfod gan y Cyng Louvain Roberts a Nia Griffith AS, pan amlinellodd Pennaeth Cynllunio ac Amddiffyn y Cyhoedd y Cyngor Sir o flaen y trigolion beth yn union a olyga wrth lunio polisi llogi sensitif ar gyfer eiddo’r cyngor. Esboniodd fod yn rhaid i’r Cyngor Sir gymryd sawl ffactor i ystyriaeth ac addawodd y byddai’n gweld beth oedd yn bosibl.
Esboniodd yn ogystal y gofynion newydd ar landlordiaid preifat sy’n cael eu trafod gan Gynulliad Cymru ar hyn o bryd. Disgwylir gweld y gofynion yn weithredol erbyn y gwanwyn nesaf, pryd bydd yn rhaid i landlordiaid gofrestru â’r awdurdod lleol.
Ymatebodd yr Heddlu i holiadau’r trigolion ar sut oedd sicrhau estyniad i mewn i’w hardal hwy y Gorchmynion Mannau Cyhoeddu Dynodedig fel yr un sy’n gweithredol yn Heol yr Orsaf sy’n atgyfnerthu’r hawliau’r heddlu i drin a thrafod yfwyr anystywallt. Pwysleisiodd yr heddlu bod yn rhaid dangos yr angen am orchmynion o’r fath gan atgoffa trigolion o’u cyfrifoldeb i ddweud wrth yr heddlu pan ddaw problemau fel eu bod yn cael eu recordio ac er mwyn i’r heddu gael gweithredu.