Croesawodd Nia Griffith AS Ysgol Tycroes i San Steffan yn ddiweddar. Yr oedd disgyblion B6 ar ymweliad dau ddiwrnod i Lundain gan ymweld â’r Amgueddfa Astudiaethau Natur a mwynhau taith mewn cwch i lawr yr Afon Tafwys. Ar ôl cael eu tywys o gwmpas T?’r Arglwyddi a’r T? Cyffredin, gyda chymorth eu pennaeth Mr Elfed Wood a’u hathrawon, cymrodd y bobl ifanc rhan mewn gweithdy a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Addysg Seneddol pan oedd yn rhaid iddynt ddewis polisïau i gynnwys mewn manifesto etholiadol. Cawsant y cyfle wedyn i weld sut oedd etholiad yn digwydd, gan gynnwys bwrw eu pleidleisiau eu hunain.
Wrth gwrdd â’r gr?p, dywedodd Nia Griffith AS, “Cefais fy mhlesio gan feddwl a dwyster y disgyblion wrth lunio eu canllawiau yn y maniffesto. Gwelaf eich bod yn dymuno mesurau er mwyn mynd i’r afael ag ysmygu ac yfed alcohol tan oedran, yn ogystal â chynlluniau i godi mwy o dai cyngor, a dal i gynorthwyo y gwledydd tlotaf yn y byd.”