Home > Newyddion > Yn talu teyrnged i’r Cymry a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Syr Deian Hopkin, cyn Is-Gynghellor Prif-Ysgol y South Bank ac ar hyn o bryd Cynghorydd Llywodraeth Cymru ar y Rhyfel Byd Cyntaf yn annerch digwyddiad yn Nhy’r Cyffredin.

Yn ddiweddar mynychodd Nia Griffith AS ddigwyddiad yn Nhy’r Cyffredin i hybu’r ymgyrch i sefydlu cofeb er clod y miloedd o filwyr Cymreig a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod y gwrthdaro hwnnw, mewn cyfartaledd â maint y boblogaeth, collodd Cymru fwy o bobl na’r un genedl arall. Tra bod gan Awstralia, Canada, Seland Newydd, yr Iwerddon ac yn ddiweddarach yr Alban, gofebau yn Fflandrys er clod i’r rhai a syrthiodd, hyd yn hyn nid oes dim cofeb i’r Cymry a gollodd eu bywydau. Nod yr ymgyrch hon yw sicrhau cofeb o’r fath. Esboniodd y cynlluniau gan  yr hanesydd Syr Deian Hopkin,  sy’n wreiddiol o Lanelli ac ar hyn o bryd yn Gynghorydd Llywodraeth Cymru ar gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Nia, “’Rwyn falch i gefnogi’r ymgyrch hon. Fel llawer o’n cyn-deidiau collodd fy Hen Ewythr Ebeneser ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a byddai cael cofeb yn addas ac yn briodol i’r Cymry a fu farw ar faes y gâd.”