Ar ddechrau Mis Ebrill cafwyd gwledd o ganu yn y Senedd mewn cyngerdd penigamp gan Gôr Meibion Llanelli, a’i arweinydd talentog a chyfarwyddwr cerdd Eifion Thomas. Cyngerdd arbennig iawn oedd hwn i ddathlu penblwydd yn 50 oed y Côr. ’Roedd yr arlwy amrywol yn cynnwys y Triawd Americanaidd yn ogystal â ffefrynnau Cymraeg fel Nant y Mynydd, Tangnefeddwyr a Myfanwy.
Yr unawdydd oedd Osian Bowen, disgybl yn Ysgol y Strade, a syfrdanodd y gynulleidfa, pan oedd mewn cystadleuaeth â chloch y Senedd a alwodd yr ASau i’w pleidlais hyd yn oed pan oedd yng nghanol cân.
Yn y gynulleidfa a gafodd ei swyno a’i chyfareddu, oedd Dr Haydn James ac aelodau Côr Cymru Llundain, Côr Gwalia Llundain a Chymdeithas Morgannwg Llundain yn ogystal ag Aelodau Seneddol ac aelodau’r T? Arglwyddi.
Yn sôn am y perfformiad, dywedodd Nia Griffith AS,
“’Rydym bob amser yn disgwyl perfformiad caboledig gan Eifion Thomas a Côr Meibion Llanelli ond ’roedd y cyngerdd penblwydd 50 yn wych. Mae gan Osian Bowen llais ardderchog; mae’n anodd credu mai disgybl ysgol yw e’ o hyd. ‘’Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd, yn frwd yn ei chanmoliaeth o’r côr ac o Osian. Oherwydd busnes seneddol, ’roedd yn bosibl ddangos y côr rhan fechan yn unig o’r Senedd. Hoffwn estyn croeso i unrhyw aelod y côr a’i deulu i gysylltu a’m swyddfa a threfnu i’m cyfarfod am daith gyflawn o gwmpas y senedd a chyfle am fwy o amser yn yr oriel gyhoeddus.”