Croesawodd Nia Griffith AS benderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr i wrthwynebu cynigion am waith glo brig ar safle Pentremawr, rhwng Pontyberem a Phonthenri.
Wrth siarad am y penderfyniad, dywedodd Nia,
“Hoffwn ddiolch i bawb a fynegodd eu gwrthwynebiad gan lofnodi’r ddeiseb neu gan ysgrifennu llythyron, ac yn enwedig y Cyng Alban Rees a’r pwyllgor gweithredu am gyflwyno achos cryf iawn wedi’i seilio ar ymchwil drwyadl yn erbyn y glo brig wrth swyddogion y cyngor. Gwn am ryddhâd y trigolion wrth glywed y newyddion diweddaraf. Yn rhy aml, yn dawel bach mae datblygwyr yn ceisio cael caniatâd am brosiectau dadleuol. Dyna pam, bedair mlynedd yn ôl, y gelwais gyfarfodydd cyhoeddus er mwyn i bobl ym Mhontyberem a Phonthenri gael cyfle i holi datblygwyr wyneb yn wyneb ynghylch yr hyn oedd i fynd ymlaen ger eu tai. A dyna pam bûm i a gwirfoddolwyr lleol yn mynd o ddrws i ddrws i dynnu sylw’r trigolion at y cynlluniau.
Yn fy llythyr diweddaraf, atgoffais y cynghorwyr, sut y llofnododd yn hydref 2009 mwy na 900 o drigololion ddeiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau am gloddio glo brig. Cyflwynwyd y ddeiseb at y cyngor gan aelodau pwyllgor gweithredu’r trigolion a minnau, a galwasom ar y cynghorwyr i atal y cais cynllunio. ’Roedd y trigolion am i’r cynghorwyr wybod eu bod yn pryderu’n ddirfawr am waith glo brig ym Mhentremawr. Yn ogystal, ni allodd y datblygwyr hyd yn oed sicrhau gwaith i bobl leol – dim ond budreddi, st?r, llwch a lorïau trymion – a’r cyfan er mwyn ennill llai o lo nag y byddai gorsaf drydan Aberthaw yn ei ddefnyddio mewn deufis.“