Mae Nia Griffith wedi rhoi clatsien i gynlluniau’r cyngor i godi’r taliadau ar gyfer meysydd chwarae, gan ddweud,
“Mae’r cynlluniau hyn i godi’r taliadau chwarae yn edrych fel gwaith cyfrifiadur. Maent wedi cael eu poeri allan heb roi sylw i’r gwir ffigwr a beth maent yn golygu mewn gwirionedd i’r clybiau chwarae gyda’u llu o hyfforddwyr gwirfoddol, dyfarnwyr a threfnwyr sy’n fodd i gymaint o bobl, yr hen a’r ifainc, i gymryd rhan mewn chwaraeon ar draws y sir. Mae’r clybiau yn deall i’r dim bod yn rhaid i’r cyngor craffu ar gostau, ond ble mae’r ymgynghoriad wedi bod, gyda rhai clybiau heb gael unrhyw fath o drafodaeth ag adran hamdden y Sir, tan iddynt yn sydyn reit dderbyn byr rybudd o rhyw ddau fis y bydd cynydd o 50% mewn taliadau gan ddechrau ar 1af Ebrill? ’Rwyn galw ar aelodau’r cyngor i ddechrau ymgynghori o ddifrif gyda phob un o’r clybiau tan sylw. Mae angen syniadau pawb ac awgrymiadau a bydd yn rhaid craffu ar y fater o bob cyfeiriad, o ostwng costau i gydweithio â mudiadau a chynghorau eraill er mwyn gwneud yn siwr nad yw cyfleoedd chwaraeon ar gyfer y breintiedig yn unig.”