Dylai barn trigolion lleol gael ei hystyried wrth i glybiau rhyw gael eu trwyddedu, yn ôl Nia Griffith, sy’n noddi bil seneddol i gyfyngu lledaenu llefydd adloniant rhyw fel clybiau dawnsio glin.
Cafodd Cyngor Sir Gâr glod yr AS gan nad oes yno clybiau rhyw am iddynt hybu polisi cryf er mwyn atal ceisiadau yn y dyfodol am lefydd o’r fath.
Nod y Bil, sydd newydd wedi cael ei gyflwyno yn y Senedd gan Diana Johnson AS, Llefarydd Llafur am drosedd a diogelwch, yw i wneud newidiadau i Ddeddf 2009 ar Blismona a Throsedd er mwyn gorfodi cynghorau i ymgynghori ar lefydd adloniant rhyw yn ogystal â gosod terfyn ar nifer llefydd o’r fath o fewn yr awdurdod.
Esboniodd Nia Griffith,
“Hanfod y Bil yw rhoi’r pwer i benderfynu beth sy’n orau am eu hardal i’r cymunedau lleol eu hunain, ac felly y cyfle i atal clybiau rhyw yn gyfan gwbl. Rhoddodd deddfwriaeth 2009 yr opsiwn i gynghorau eu hun osod terfyn ar nifer y clybiau rhyw ac mae rhai cynghorau fel Abertawe wedi defnyddio’r ddeddfwriaeth i osod terfyn zero. Ond onibai bod cynghorau yn arddel polisi penodol ar glybiau rhyw fel mae Sir Gâr wedi’i wneud, fe all fod yn rhy hawdd i geisiadau fynd rhagddo tan weithdrefnau trwyddedu cyffredinol er gwaethaf gwrthwynebiad trigolion lleol a phryderon pwyllgorau trwyddedu oherwydd bygythiad gweithredu cyfreithiol drud.. Mae’r Bil hwn yn gorfodi cynghorau i ymgynghori â thrigolion ac i arddel polisi cryf gan gynnwys terfyn ar nifer clybiau o’r fath. Gallant, wedyn, wrthod ceisiadau di-groeso ac arbed y Cyngor fforsiwn mewn costau apêl.”