Wrth siarad mewn dadl seneddol ar faterion gwledig gwnaeth Nia Griffith AS y pwynt bod yr hen ystrydeb am fyw mewn paradwys gwledig yn bell o’r gwir. Mae llawer o bobl sy’n byw mewn etholaethau gwledig a hanner gwledig fel Llanelli lle tyfodd y pentrefi o gwmpas yr hen byllau glo, nawr yn teithio tu allan i’r ardal i ddod o hyd i waith ac yn gorfod ddod i ben â chostau uwch am deithio, bwyd, a thanwydd.
Ychwanegodd Nia
“Mae Llafur wedi addo rhewi prisiau ynni a thra bydd hwn o gymorth i bawb â biliau trydan, mae angen arnom wneud popeth yn ein gallu i helpu’r sawl nad ydynt ar y grid ac oherwydd hyn yn wynebu costau cynyddol mewn olew, tanwydd solet neu nwy LPG. Dyna paham bydd cynigion Llafur yn cynnwys rheolydd cryf, newydd er mwyn mynd i’r afael â materion oddi ar y grid. ’Rydym hefyd wedi addo talu taliadau tanwydd gaeaf yn gynt – o fis Tachwedd i’r haf – fel bydd modd gan bensiynwyr brynu olew pan fo’r prisiau yn llawer rhatach ym misoedd yr haf. ’Rwyn gwybod bod pensiynwyr yn casglu at eu gilydd mewn clybiau olew, ond mae’n rhaid chwilio am bethau eraill i’w gwneud yn ogystal.”
I grynhoi, dywedodd yr AS,
“Ar ba bynnag pwnc sy’n dan ein sylw, drwyddi draw, mae’n bwysig ein bod yn meddwl ar yr effaith ar breswylwyr cefn gwlad. Mae’n rhaid i ni, byth a hefyd, edrych ar sut i ddatganoli cyfleoedd gwaith – boed trwy wella Band Eang neu drwy fuddsoddiad yn ein pentrefi bychain a chymunedau – ac mae’n rhaid i ni beidio â gadael i bopeth fynd i’r canol. Datganoli – dyna’r allwedd i ddatblygu cymunedau ffyniannus yn ein cefn gwlad.