Ysgrifennodd Nia Griffith AS at Adran Cynllunio y Cyngor i ddatgan ei gwrthwynebiad i gynnig am waith glo brig ar safle Pentremawr rhwng Pontyberem a Phonthenri. Wrth saiarad yn gryf yn erbyn y cynlluniau, dywedodd
“Mae’n hollol amlwg i fi o gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ym Mhontyberem a Phonthenri bedair blynedd yn ôl ac wrth siarad a nifer o drigolion ers hynny, bod gwrthwynebiad cyffredinol i’r cynigion hyn gan fod y gweithfeydd arfaethedig mor agos at gartrefi pobl ac at yr ysgol. Yn fy llythyr ’rwyn atgoffa cynghorwyr mai yn ôl yn nhymor yr Hydref 2009, cafwyd mwy na 900 llofnod trigolion yn datgan eu gwrthwynebiad i gynlluniau am waith glo brig.’Roeddwn yng nghwmni aelodau pwyllgor gweithredol y trigolion tan arweiniad y Cynghorydd Cymuned Alban Rees pan gyflwynwyd y ddeiseb at y Cyngor, wrth alw ar y cynghorwyr i atal cais cynllunio cwmni o’r enw Draeth.
Mae trigolion am fod yn siwr bod y cyngorwyr yn gwybod pa mor ddwys yw eu pryder yngl?n â chael gwaith glo brig ym Mhentremawr. Mae meddwl am y swn, y llwch, a’r loriau yn arswydus.