Tyrrodd trigolion Penbre i Neuadd yr Eglwys leol Dydd Sadwrn er mwyn lleisio eu gwrthwynebiad i datblygiad arfaethedig Heol y Mynydd o 100 o gartefi newydd.
Mewn cyfarfod cyhoeddus dan ei sang â gadeiriwyd gan Nia Griffith AS, lleisiodd trigolion eu hofnau dwys am ganlyniadau gadael i’r datblygiad hwn fynd yn ei flaen.
Wrth grynhoi’r cyfarfod, dywedodd Nia Griffith, “Mae gwrthwynebiad drwyddi draw i’r datblygiad hwn. Nid oes dim yn wybodaeth y datblygwyr naill ai am ddatrys peryglon traffig ar Heol y Mynydd, neu am wneud iawn am ddiffyg palmant a’r gyffordd beryglus â phrif-ffordd yr A484. Nid yw darparu llwybr ar draws y cae (sydd, beth bynnag, , wedi cael ei ffensio nawr ar gyfer gerddi) yn gwneud iawn am balmant – ni fyddai rhieni ddim yn fodlon i’w plant gerdded adref ar y fath lwybr anghysbell.
“Yn waeth, efallai, nid yw’r datblygwyr yn cynnig dim i ateb problem carthffosiaeth annigonol a’r cynnydd gofidus mewn risg llifogydd o ddwr wyneb-yr-hewl sy’n peri hunllef i bobl â chartrefi a busnesau i lawr y tila o’r datblygiad arffaethedig, llawer ohonynt â phrofiad uniongyrchol o ba mor gyflym welir y dwr yn codi mewn cawod drom iawn. Yn sgil y llifogydd dinistriol y llynedd yn Rhuthin,pan bwyntiwyd y bys at y cyngor lleol am ganiatau’r datblygiad, dylai’r Cyngor wrthod datblygiad syddnid yn unig mewn gorlifdir ond yn ogystal unrhyw ddatblygiad, fel yr hwn yn Heol y Mynydd,sy’n cynyddu’r risg o lifogydd mewn eiddo ac adeiladau cyfagos.
“Achos arall o bryder yw effaith yr ystâd tai newydd ar Fferm Cwrt a fydd, cyn bo hir, mwy na thebyg, yn gweld ei graddfa 11* statws adeilad rhestredig yn codi i raddfa 1. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn difetha’n llwyr safle a lleoliad yr adeilad unigryw hwn a rhoi yn y fantol gwaith adewyddu pellach yn y dyfodol. “