Ymateb chwyrn a dig gafwyd gan Nia Griffith AS i’r newyddion bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu cau ward chwech yn Ysbyty y Tywysog Philip ac i atal am chwech mis, llaw-driniaeth orthopaedig i gleifion sydd yn yr ysbyty yn barod.
“’Roeddwn yn arswydo glywed bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn lleihau llaw-driniaeth orthopaedig cleifion i wasanaeth haf yn unig, ac arswyd yw meddwl bod cleifion yn cael ar ddeall bod chwech mis arall ganddynt i aros tan y dyddiad ac amcangyfrifir ar gyfer eu llaw-drininiaeth. Dyma’r cleifion sydd yn barod wedi bod yn aros am amser hir, ac sydd yn debyg yn dioddef poen, ac hefyd yn achos pengliniau a chluniau yn dioddef o anhawster wrth symud o gwmpas.
Er ein bod yn ddiolchgar bod cleifion sydd yn yr ysbyty yn ystod y dydd yn unig yn derbyn eu llaw-driniaeth, gallai hwn arwain at y sefyllfa chwerthinllyd bod llaw-driniath llai pwysig o bosib yn cael blaenoriaeth dros rhai mwy difrifol; sut, felly, mae hwn yn unol â barn arbenigwyr ar yr hyn sy’n hanfodol? Ydym o ddifri’ yn disgwyl i gadw llawfeddygon o’r rheng flaenaf os dyma yw eu amodau gwaith?
Brad o’r eithaf fydd hwn i bobl Llanelli. Dro ar ôl tro yn ein trafodaethau llosg ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysybyty y Tywysog Philip ‘roedd y Bwrdd Iechyd yn pwysleisio ein bod yn diswyl prosiect Orthopaedig blaenllaw yn Llanelli ac nawr maent yn gwneud hyn. Mae’n rhaid bod gwell ffyrdd o ddod i ben â phwysau’r gaeaf ar y gwasanaeth iechyd.
Galwaf ar y Bwrdd Iechyd i ail-feddwl y penderfyniad ofnadwy hwn ac i weithio ag hyblygrwydd.”