Home > Newyddion > AS yn mentro i Dy Arswyd

Yn ddiweddar, ymwelodd Nia Griffith AS â llyfrgell  Llanelli er mwyn cefnogi her darllen yr haf gan blant. Eleni y thema yw’r T? Arswyd. Nod yr her yw hybu darllen pleser plant yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r cynllun yn cynnwys cymhellion i ddal i ddarllen, a medal a thystysgrif i bawb sy’n cwblhau’r her.

Dewisir y themâu er cymell darllenwyr ifainc, ond yn ogystal mae plant yn cael eu hybu i ddilyn diddordebau eu hunain wrth ddewis llyfr. Mae darllen trwy gydol yr haf yn help i gynnal sgiliau darllen plant ac i hybu hunan-barch.  Gall plentyn ymaelodi yn rhad ac am ddim yn unrhyw un o’r llyfrgelloedd lleol.

Yn ei sylwadau ar y cynllun, dywedodd Nia Griffith, “Gyda chymaint o weithgareddau’n cystadlu am amser a sylw’r plant, modd ardderchog o dynnu sylw at bleserau darllen a’r cyfoeth darllen sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd lleol yw Her Darllen yr Haf. ’Rwyn gobeithio bydd cymaint o blant â phosibl  yn cymryd rhan.”