Dros y Pasg ymwelodd Tom Watson AS â Llanelli. Trefnydd Ymgyrchoedd Llafur, siaradodd ef yng Nghanolfan Selwyn Samuel a soniodd yn ddiymhongar am ei ran yn datgelu’r sgandal hacio ffônau cyn mynd ymlaen i bwysleisio pa mor hanfodol y mae i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau buddugoliaeth Llafur yn Etholiad cyffredinol 2015 – dim ond yn y ffordd yna gallwn gael gwared â chynghellor sydd wedi methu ac sy’n rhoi miliwnyddion o flaen teuluoedd sy’n gweithio’n galed, a gallwn fod mewn sefyllfa i wireddu’n polisiau er mwyn sbarduno’n economi, rhoi cyfle gwaith i bobl a gosod tegwch fel egwyddor yng nghanol ein cymdeithas. Yn y drafodaeth ar ôl ei anerchiad atgoffodd bawb mai nawr yw’r amser i fwydo syniadau i broses creu polisi y Blaid Lafur.
Wedi cael eu hysbrydoli gan ei ymweliad mae aelodau Llafur Ifanc yn trefnu gweithgareddau trwy’r haf.
Cewch fwy o fanylion oddi wrth y Cadeirydd Ryan Davies, ryansamueldavies@gmail.com , Cydlynydd Gweithgareddau Adam Cousins, cousins.adam@gmail.com neu’r Ysgrifennydd david@darkinarchitects.com neu chwiliwch Young Labour Carms ar facebook @ https://www.facebook.com/YouthLabourCarms?fref=ts