“’Rwyn ddig ac yn siomedig,” dywedodd Nia Griffith AS mewn ymateb chwyrn a chwerw at aelodau Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a wrthododd gefnogi cynnig Cynghorwyr Llafur i gondemnio’r toriadau i Orsaf Dân Llanelli ac i alw am fwy o drafodaethau.
“Cynghorwyr Lleol Llafur Calum Higgins a Jan Williams siaradodd yn gadarn dros bobl Llanelli pan fynasant gyfarfod arbennig a chyflwnasant gynnig a oedd yn condemnio’r toriadau i Orsaf Dân Lanelli ac yn galw ar i bawb ddychwelyd at y trafodaethau gydag Undeb y Diffodwyr Tân. Cawsant gefnogaeth llawn cynghorwyr Llafur Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe a Sir Benfro. Er siom a dicter imi, ar ôl 3 awr o drafod, pleidleisiodd “y glymblaid ddieflig” sy’n cynnwys Plaid Cymru, Y Democratiaid Rhyddfrydol, y Torïaid a’r Annibynwyr yn erbyn y cynnig, gan drechu cynghorwyr Llafur 12 – 10. ’Rwyf bob amser yn ceisio cyd-weithio yn draws-bleidiol wrth achub gwasanaethau lleol, ac ’roeddwn yn gobeithio fyddai gennyf gefnogaeth er lles Llanelli o gyfeiriad rhai o’r pleidiau eraill. Cawsant eu rhybuddio ym Mis Ionawr gan y Gr?p Cynghori Technegol y byddant wedi torri y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd ond nid ydynt eto wedi datrys y broblem honno. ‘Roedd y sawl a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig yn gyfrifol am haneru nifer y diffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân Llanelli, ac unrhyw ganlyniadau sy’n dod yn eu sgil.”