Diolch i Del a Caryl Phillips, Bynea, cynhaliwyd Rowndiau Terfynol y Pencampwriaeth Elît gan Gymdeithas Paffio Amatur Cymru yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn ddiweddar. Daeth enillwyr a’u cefnogwyr o bob cwr o Gymru i’r digwyddiad mawr ei bri hwn a chafodd sawl un bleser wrth weld y cyfleusterau swmpus a oedd ar gael yng Nghanolfan Selwyn Samuel sydd o dan reolaeth Cyngor y Dref. Yno, ’roedd lle i 250 o wahoddedigion i eistedd i lawr a mwynhau pryd o fwyd ac i 400 o wylwyr eraill.
Yn ôl Nia Griffith AS,
“Dywedodd pobl eu bod yn gallu gweld y ring o bob rhan a thwll a chornel o’r neuadd; dylwn ymfalchïo yn y cyfleusterau sydd ar gael yn Llanelli a denu mwy o ddigwyddiadau tebyg i ddod yma. Da iawn i’r paffwyr i gyd a oedd wedi hyfforddi mor galed i gyrraedd y safon hon a diolch i’r trefnwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn hael er mwyn hybu chwareuon o bob math dros Gymru ben baladr. Braint ac anrhydedd oedd cyflwyno’r gwobrau i enillydd Bencampwriaeth Elît i ferched a menywod, sef Charlene Jones o Merlin’s Bridge, Sir Benfro ac i’r ail orau sef Heulwen Evans, Llwynhendy.”