Home > Newyddion > Nia yn herio bygythiad cyfreithiol cwmni adolygu iechyd

Yn sgil y gwrthdystiad y tu allan i swyddfeydd ORS rhoddodd Nia Griffith AS a Keith Davies AC lythyr i’r cwmni ymchwil preifat yn gofyn i’r prif rheolwyr i ddileu’r bygythiad cyfreithiol yn erbyn aelodau Cyngor Iechyd |Cymunedol Hywel Dda.

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi gofyn i’r Cyngor Iechyd Cymunedol a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i drafod am gyfnod pellach er mwyn ceisio cytundeb lleol. Cred Nia Griffith AS a Keith Davies AC bod gan y Cyngor Iechyd Cymunedol rôl pwysig i chwarae wrth gynrychioli barn cleifion ar draws ein hardal leol. Yn ôl gwleidyddion Llanelli gall bwgwth gweithred cyfreithiol yn erbyn dau aelod gwirfoddol o’r Cyngor sef y Cadeirydd Tony Wales a’r Dirprwy-Gadeirydd Dr Gabrielle Heathcote danseilio’r trafodaethau hynny.

Wrth drafod y fater, dywedodd, Nia Griffith AS:

“Mae bwgwth gweithred cyfreithiol gan yr ORS yn tynnu sylw oddi ar waith difrifol a phwysig y Cyngor yn craffu cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Gwn y byddai’n well gan bobl Llanelli weld y Cyngor yn siarad drostynt yn gadarn am wasanaethau A & E yn PPH yn hytrach na defnyddio eu hamser prin i ymateb i fygythiad gweithred cyfreithiol.”

Yn sgil cyfarfod rhwng yr AS, yr AC a’r ORS, cytunodd yr ORS i orhirio’r dyddiad olaf am ymateb i’w llythyr tan ar ôl 19ydd Ebrill, sef y dydd olaf am drafodaethau rhwng y Cyngor Iechyd Cymunedol a’r Bwrdd Iechyd.