Dywedodd Nia Griffith AS mewn rali ar ddechrau’r sifft olaf tan yr hen drefniadau cyn cychwyn y patriymau sifft newydd:
“Bu heddiw yn achos tristwch i Lanelli gan fod methu cyrraedd cytundeb ar batriymau sifft newydd wedi arwain at symud trwch y staff profiadol i ffwrdd o Orsaf Dân Llanelli.
“Dro ar ôl tro gelwais ar Gadeirydd yr Awdurdod Tân i wrando ar y ddwy ochr ac i gymryd cyngor y panel o arbenigwyr ym maes cymodi. Er gwaethaf galwadau gan aelodau Llafur yr Awdurdod Tân, Calum Higgins a Jan Williams i gynnal cyfarfod arbennig cyn heddiw, nid yw’r cyfarfod hwnnw yn digwydd tan yr wythnos nesaf.
“’Rwyn galw ar yr Awdurdod Tân i gynnal y cyfarfod arbennig hwnnw mewn lle sy’n agored i’r cyhoedd. ’Rwyn annog aelodau’r Awdurdod Tân i fynychu’r cyfarfod hwnnw ac i fwrw pleidlais dros ail-feddwl – mae angen arnynt sylweddoli maint a natur ein poblogaeth a’n diwydiant ac nid ydym am weld unrhyw ostyngiad yn nifer ac arbenigedd y bobl yn ein gorsaf dân.”