Home > Newyddion > Nia yn cefnogi cydnabyddiaeth am arfau Pen-bre gweithwyr

Mae Nia Griffith AS yn cefnogi ymdrechion Les George o Borth Tywyn i sicrhau bod ymwelwyr i Barc Gwledig Penbre yn dysgu am hanes  Ffatri  yr Ordans Brenhinol ym Mhenbre.

Aelod Gr?p Aml-bleidiol y Senedd am gydnabyddiaeth i weithwyr arfau yw’r AS. Mae eu hymdrechion hyd yma wedi arwain at weithwyr arfau gael cymryd rhan yn y Seremoni Goffa yn Whitehall ar 11fed Tachwedd 2012

Wrth siarad mewn trafodaeth seneddol i hybu’r achos, dywedodd Nia,

“Ar lefel genedlaethol ymdrechwn am ryw gydnabyddiaeth i’r gweithwyr arfau sy’n dal yn fyw megis y bathodyn i gyn-filwyr, merched y tir, a bechgyn Bevin a Chofeb Barhaol i weithwyr arfau yn Arboretum Cofeb Genedlaethol yn Swydd Stafford. Ar yr un pryd yn leol ’rwyn ddiolchgar iawn i waith Mr Les George wrth olrhain hanes  Ffatri yr Ordans Brenhinol ym Mhenbre.

Mae ganddo’r stori i’w gweld yn ystafell bwyta y parc gwledig ac ’rwyn credu bod ei syniad o fyrddau gwybodaeth yn y parc yn un ddylwn frwydro drosto gyda’r Cyngor Sir, sef perchnogion y parc.

Yn ystod y ddau ryfel byd ’roedd y gwaith drewllyd, brwnt, peryglus hwn yn cael ei wneud gan fenywod fel mam Les, ac erbyn canol yr ail ryfel byd, ’roedd rhyw 90% o fenywod sengl a 80% o fenywod priod yn gweithio i gefnogi’n hymdechion rhyfel, ffaith sydd yn aml yn cael ei anwybyddu.  ’Rwyn siwr bod gan lawer o deuluoedd storïau am ROF Penbre. Byddai’n llesol i wrando arnynt.”