Home > Newyddion > Miliwnyddion yn Cael Mwy o Arian. Diolch i Doriad Treth

Tyfiant i lawr, diweithdra i fyny, benthyca fwy a miliwnyddion ar ben eu digon: ’roedd  neges Cyllideb George Osborne yn eglur. Dyna Gyllideb llawn mwy o’r un peth o Gynghellor heb barch.

Methiant yw cynllun economaidd David Cameron a George Osborne ond nid oes ganddynt y wyneb i gyfaddef y ffaith.  Nid oes ganddynt ddim clem ar sut i wella’r economi ac oherwydd hynny mae gormod o bobl yn ein gwlad yn talu’r pris.

Economi wastad sydd gennym, gyda diweithdra’n codi, prisiau’n codi’n gyflymach na chyflogau ac yn awr mae’r llywodraeth ar fin benthyg y swm aruthrol o £245 biliwn yn fwy na’r bwriad gwreiddiol i dalu am y methiant economaidd hwn.

Mae angen arnom Gyllideb feithgar a radical i sbarduno’n economi a chynorthwyo miliynau ar gyflogau isel a chanol sy’n cael pethau’n anodd.

Mae angen arnom dreth bonws banciau i gyllido gwarant swyddi i bobl ifainc, treth newydd, is, 10 ceiniog i gychwyn  i leddfu’r wasgfa  a buddsoddiad i godi 100,000 o dai fforddiadwy ac i gael gweithwyr y diwydiant adeiladu nôl mewn gwaith.

Yn lle hyn, ymhen 16 o ddiwrnodau bydd 13,000 miliwnydd yn derbyn toriad treth gwerth ar gyfartaledd £100,000 tra bod miliynau’n brwydro’n beunyddiol i ymdopi  ac yn wynebu toriadau yn eu credydau treth, budd-dal plant ac hefyd y dreth ystafell wely.

Mae angen arnom newid os ydym i ail-adeiladu Prydain , ond ni all naill ai David Cameron neu George Osborne ei wneud.

Heddiw, mae’n fwy clir nag erioed mai dim ond Llywodraeth Un Genedl Lafur sydd â’r gallu i gyflwyno’r newid mae ein gwlad yn deisyf er mwyn sicrhau economi tecach a chryfach fel gall pobl byw bywyd llawn.

Os credwch bod Prydain yn haeddu gwell, cliciwch yma If you believe Britain deserves better, click here