“Gwn fy mod yn siarad dros nifer fawr o drigolion lleol pan wyf yn cymeradwyo’r Cyngor Iechyd Cymuned am ddefnyddio ei bwerau i drosglwyddo cynlluniau Hywel Dda i Lywodraeth Cymru. Gwn nad ydynt wedi gwneud hyn yn ysgafn ond fel y cam eithaf. Yn ôl ym Mis Hydref dywedodd y Cyngor mewn ymateb i ddogfen ymgynghorol Hywel Dda y dylai ail-sefydlu yn Ysbyty y Tywysog Philip drefniadau cyhyrog A & E tan arweiniad meddyg neu ymgynghorydd yn enwedig gan ystyried maint poblogaeth y dref. Byddai wedi bod llawer yn well pe bai Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi ail-feddwl ei gynlluniau y pryd hynny. Fel y corff statudol sy’n cynrychioli buddiannau’r cleifion a’r cyhoedd, mae perffaith hawl gan y Cyngor Iechyd Cymuned i hawlio gwasanaethau yn Llanelli sawl cystal â’r rhai sydd ar gael mewn llefydd eraill yn ardal y Bwrdd.”
Ymateb gan y Cyngor Iechyd Cymuned i Ymgynghoriad Bwrdd Hywel Dda Hydref 2012.
“Cefnogwn gadw gwasanaethau llawn A & E ym mhob un o’r dri ysbyty cyffredinol ardal. Hefyd, ’rydym yn erbyn lleihad pellach yng ngwasanaethau brys yn PPH Llanelli. Credwn y dylai ail-sefydlu yn Ysbyty y Tywysog Philip drefniadau cyhyrog A & E tan arweiniad meddyg neu ymgynghorydd yn enwedig gan ystyried maint poblogaeth y dref, y dalgylch eang, ac ar ben hynny yr ardaloedd o dlodi. Nodwn gefnogaeth sylweddol y cyhoedd am adnoddau o’r fath yn y dref, gan gynnwys deiseb o fwy na 30,000 llofnod arni yn ogystal â chefnogaeth y cynghorau lleol. Pwysig yw ein hymwybyddiaeth o safbwyntiau y GPs sy’n cynnal y gwasanaeth ar hyn o bryd ac sy’n credu mai anniogel fyddai gwasanaeth llai. Tan yr amgylchiadau hyn ’rydym wedi dod i’r farn ystyrlon y dylau bod gan PPH ystod llawn ac eang o adnoddau A & E gystal â’r hyn a ddarperir yn y tri ysbyty arall yn yr ardal.”