Nia yn cyfarfod â Aung San Suu Kyi

Nia ac Aung San Suu Kyi

’Roedd Nia Griffith AS wrth ei bodd i gael y cyfle  i gwrdd â  Daw Aung San Suu Kyi ei hun ar ôl gwrando ar ei hanerchiad hanesyddol i’r Senedd yn Neuadd San Steffan yr wythnos diwethaf. Wrth ei chyflwyno fel arweinydd ac fel gwladweinyddes, esboniodd y Llefarydd mai digwyddiad gwir hanesyddol oedd hwn gan mai dim ond ychydig o ffigurau rhyngwladol  – Charles de Gaulle, Nelson Mandela, Pope Benedict XVI a Barack Obama – sydd wedi siarad yma. “Heddiw Daw Aung San Suu Kyi fydd yr unigolyn cyntaf ar wahan i Bennaeth Gwladwriaeth i annerch yma, y fenyw gyntaf o dramor a’r dinesydd cyntaf o Asia i’w wneud.”
Hollol eglir oedd neges araith Aung San Suu Kyi; er gwaetha’r  digwyddiadau calonogol yng ngwlad Burma, nid yw’n briodol i laesu dwylo ac mae llawer eto i’w newid.  Gofynnodd hefyd am fwy o gefnogaeth o du allan i hyrwyddo’r newid i ddemocratiaeth, gan bwysleisio,  “’’Rwyf yma yn rannol i ofyn am gymorth ymarferol, am gymorth i gyfaill, am rywun sy’n debyg i chi a fi, am gefnogaeth i’r diwygiadau all arwain at fywydau gwell, gwell gyfleoedd, i drigolion Burma  sydd wedi bod cyhyd mor brin o’u breintiau a’u hawliau a’u lle yn y byd.”
Yn ddiweddarach, cyfarfu Nia â Daw Aung San Suu Kyi yn y Swyddfa Dramor a dywedodd, “Braint ac anrhydedd oedd cyfarfod â Aung San Suu Kyi a gwrando arni yn siarad heddiw. Mae’n rhaid i ni ddal i helpu trigolion Burma yn ystod her y newid i ddemocratiaeth, ac i wneud popeth yn ein gallu i hybu Llywodraeth Burma i wireddu diwygiad fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ac fydd yn para yn hir.”


Leave a Comment


  • Siomwyd Diffoddwyr Tân Llanelli gan Blaid Cymru

    “’Rwyn ddig ac yn siomedig,” dywedodd Nia Griffith AS  mewn ymateb chwyrn a chwerw at aelodau  Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a wrthododd gefnogi cynnig Cynghorwyr Llafur i gondemnio’r toriadau i Orsaf Dân Llanelli ac i alw am fwy o  drafodaethau. “Cynghorwyr Lleol Llafur Calum Higgins a Jan Williams siaradodd yn gadarn dros bobl [...]

  • Nia yn Siarad yn Gadarn Am Ysbyty Llanelli

      Wrth siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y diwrnod o wybodaeth gyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Selwyn Samuel, gofynnodd Nia i gyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Hywel Dda a’r Rheolwr Cynllunio am y gor-ddefnydd o adnoddau’r ambwlans ac am wella’r proses o ddenu staff. Dywedodd Nia, “’Rydych wedi dweud  mai nid arian ond yn hytrach [...]

  • Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig yr AS

    Amser caled oedd o flaen beirniaid y gystadleuaeth carden Nadolig yr wythnos hon wrth ddewis yr enillwyr yng ngystadleuaeth carden Nadolig yr AS allan o dros 450 cynnig a ddaeth o ysgolion cynradd lleol. Y camp oedd cyflwyno cyllun addas i garden Nadolig ar thema cinio Nadolig, a’r beirniaid oedd arlunydd lleol Joan Jones, Rebecca [...]

  • AS yn codi £1,500 i elusen iechyd meddwl cyn-fllwyr

    Ar Ddydd Sul 6ed Tachwedd am 11 y bore, diolch i Gymdeithas Gyn-filwyr Llanelli, codwyd Nia Griffith AS dros £1500 trwy gymryd rhan mewn “abseil” wedi ei noddi yn Dinas Rock, Pontneddfechan. Aeth yr elw at ‘Combat Stress’ elusen filwrol fwyaf y DU  sy’n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl cyn-filwyr Disgynnodd 200 troedfedd ar  ei [...]

  • AS yn Ymweld á Ffatri Ail-Gylchu

    Yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd yr Wrthblaid ar Fusnes mae Nia Griffith wedi bod ar daith ymchwiliol i ail-gylchydd metalau ac electronig Sims Metal Management, Casnewydd. Nia, sydd hefyd yn ysgrifennydd y grwp aml-bleidiol seneddol ar ddur a metal, ymwelodd â Sims Metal Management, Casnewydd i ddysgu mwy am y diwydiant ail-gychu metalau ac [...]