’Roedd Nia Griffith AS wrth ei bodd i gael y cyfle i gwrdd â Daw Aung San Suu Kyi ei hun ar ôl gwrando ar ei hanerchiad hanesyddol i’r Senedd yn Neuadd San Steffan yr wythnos diwethaf. Wrth ei chyflwyno fel arweinydd ac fel gwladweinyddes, esboniodd y Llefarydd mai digwyddiad gwir hanesyddol oedd hwn gan mai dim ond ychydig o ffigurau rhyngwladol – Charles de Gaulle, Nelson Mandela, Pope Benedict XVI a Barack Obama – sydd wedi siarad yma. “Heddiw Daw Aung San Suu Kyi fydd yr unigolyn cyntaf ar wahan i Bennaeth Gwladwriaeth i annerch yma, y fenyw gyntaf o dramor a’r dinesydd cyntaf o Asia i’w wneud.”
Hollol eglir oedd neges araith Aung San Suu Kyi; er gwaetha’r digwyddiadau calonogol yng ngwlad Burma, nid yw’n briodol i laesu dwylo ac mae llawer eto i’w newid. Gofynnodd hefyd am fwy o gefnogaeth o du allan i hyrwyddo’r newid i ddemocratiaeth, gan bwysleisio, “’’Rwyf yma yn rannol i ofyn am gymorth ymarferol, am gymorth i gyfaill, am rywun sy’n debyg i chi a fi, am gefnogaeth i’r diwygiadau all arwain at fywydau gwell, gwell gyfleoedd, i drigolion Burma sydd wedi bod cyhyd mor brin o’u breintiau a’u hawliau a’u lle yn y byd.”
Yn ddiweddarach, cyfarfu Nia â Daw Aung San Suu Kyi yn y Swyddfa Dramor a dywedodd, “Braint ac anrhydedd oedd cyfarfod â Aung San Suu Kyi a gwrando arni yn siarad heddiw. Mae’n rhaid i ni ddal i helpu trigolion Burma yn ystod her y newid i ddemocratiaeth, ac i wneud popeth yn ein gallu i hybu Llywodraeth Burma i wireddu diwygiad fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ac fydd yn para yn hir.”