Home > Newyddion > Nia yn codi arian i’r Diffoddwyr Tân

Cyng. Tref Jill Johns, Cyng. Sir Jan Williams, deiliad y stondyn cacennau Janice Davies, Lilian Rees a Nia Griffith AS

Yn ddiweddar ’roedd Nia yn bresennol mewn bore coffi a sêl ford a drefnwyd gan Lilian Rees, perchennog  cwmni tacsi,  yn Neuadd Llanerch lle codwyd dros £200 i elusen y diffoddwyr tân.
Yn mynychu’r digwyddiad, dywedodd Nia Griffith AS
“’Roeddwn yn falch iawn i gefnogi’r bore coffi a’r sêl a drefnwyd gan Lilian Rees ar Ddydd Sadwrn er budd elusen y Diffoddwyr Tân, achos teilwng iawn sy’n helpu ein diffoddwyr tân dewr a’u teuluoedd os daw angen  i’w rhan.   Gwn fod Lilian wedi gweithio’n galed iawn i wneud y digwyddiad hwn yn un llwyddiannus. Dywedodd Lilian, “Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a roddent o’u hamser i wireddu’r sêl hon.  Mae’n rhy hawdd i gymryd y gwasanaeth tân yn ganiataol, ac heddiw oedd cyfle i bob un ohonom  ddangos ein gwerthfawrogiad wrth gyfrannu tuag at elusen y Diffoddwyr Tân.”