Mae Nia Griffith AS, Gweinidog yr Wrthblaid ar Gymru, wedi bod allan yn Ystradgynlais i lansio’r ymgyrch i ethol Christine Gwyther, Llafur, yn gomisynydd heddlu Dyfed Powys ar Ddydd Iau, 15fed Tachwedd.
Prif addewidion Christine yw i:
• Sefyll yn gadarn dros gymunedau yn erbyn toriadau 20% y Torïaid a cholli 16,000 o swyddogion yr heddlu.
• Gadw heddlu ar y rhawd gyda phlismona cymunedol, ac nid wedi ei drosglwyddo i gwmnïau preifat neu ei adael i Swyddogion Diogelwch Cymuned yn unig.
• Cefnogi ymateb cadarn a chyflym i ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Dylai dioddefwyr dderbyn ymateb o fewn 24 awr.
• Fod yn llym ar droseddu, ac yn llym ar achosion troseddu, gan gyd-weithio mewn partneriaeth â’r heddlu, pobl leol a chynghorau i fynd I’r afael ac i atal troseddu.
• Diogelu’r heddlu rhag ymyrraeth weidyddol. Arwyddodd Christine gytundeb i barchu annibyniaeth y Prif Gwnstabl.
Dywedodd Nia
“ Mae toriadau 20% y Llywodraeth Torïaid-Democrataidd Rhyddfrydol yng nghyllidau’r heddlu’n warthus ac yn peryglu diogelwch y cyhoedd, gyda cholled o 16,000 o swyddogion yr heddlu gan gynnwys 750 yma yng Nghymru. Yn Llafur Cymru ’rydym yn cydnabod mai hanfodol bwysig yw amddiffyn ein holl gymunedau. Gyda’i phrofiad helaeth o rannau trefol, gwledig a diwydiannol Dyfed-Powys, mae Christine yn deall y sawl her gwahanol iawn sy’n ynghlwm â phlismona yr ardal enfawr ac amrywiol hon.