Home > Newyddion > AS yn Cynnau Coelcerth y Jiwbilî yn Fferm Cwrt

Nia gyda Dominic Conway, Cadeirydd a Pat Neil, Ysgrifennydd Cyfeillion Fferm Cwrt.

Trefnodd cyfeillion Fferm Cwrt goelcerth benigamp  Nos Lun i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines. Diweddglo y noson oedd cynnau coelcerth gan Nia Griffith AS.
Mwynhaodd y gwahoddedigion gynyrch Cymreig o’r ansawdd uchaf – selsig o Gig Calon Cymru a byrgers cig eidion, wedi eu coginio gan y Cyfeillion a’u cynorthwywyr a’r cyfan yn lleoliad godidog adeilad urddasol Fferm Cwrt.  Noddwyd y noson gan Gyngor Tref Penbre a Phorth Tywyn ac yn bresennol  ’roedd y Maer y Cyng Mary Wenman a’i dirprwy y Cyng Moira Thomas.
Tra oedd y parti yn ei anterth yn Fferm Cwrt, i lawr yn y Butcher’s Arms ’roedd aelodau Clwb Pêl-Droed Penbre yn ymbaratoi i ddechrau ar daith y fflam trwy ffyrdd Lando, Danlan, Gwscwm, Ashburnam  a Scwâr Randall cyn dringo  Ffordd y Mynydd i Fferm Cwrt.  Yno, i gyfarfod  â’r fflam ’roedd gwarchodwyr anrhydeddus o gadetiaid y môr yn barod i drosglwyddo’r fflam i Nia Griffith AS. Yna, cymrodd Nia y fflam, ac, ochr yn ochr â Dominic Conway a Pat Neil, Cadeirydd ac Ysgrifennydd CyfeillionFferm Cwrt, am 10.26 y bore, yn union, rhoddodd Nia y goelcerth ar dân, er mwyn ei chysylltu â chyfres o goelcerthi i anrhydeddu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines.